Tystysgrif Ran-amser mewn Trin Gwallt (Cwrs Coleg)
- Campws Aberteifi
Mae trin gwallt yn ddewis gyrfaol poblogaidd a gwerth chweil i unigolion sy’n frwdfrydig dros steilio gwallt a helpu a chynghori cleientiaid.
Mae’r cwrs rhagflas cyffrous, lefel dau rhan-amser hwn, wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd ag uchelgais i weithio yn y diwydiant trin gwallt. Mae’n cwmpasu’r holl driniaethau trin gwallt sylfaenol a bydd yn rhoi sail dda i chi allu symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch.
Wrth ddysgu yn salon hyfforddi masnachol y coleg byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel trinydd gwallt. Yn ystod y cwrs byddwch yn datblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol am y diwydiant.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon trin gwallt go iawn.
Drwy gydol y cwrs hwn, byddwch yn cael eich asesu trwy brofion sgiliau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig a fydd yn rhedeg ochr yn ochr â’r modiwlau rydych yn eu hastudio. Mae’r dystysgrif lefel dau hon yn cynnwys yr elfennau gofynnol i weithio’n effeithiol fel trinydd gwallt gan gynnwys lliwio a goleuo gwallt, steilio a gwisgo gwallt a gweithio yn y diwydiant gwallt.
Manylion y cwrs
- Rhan amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Cynhelir y cwrs rhan-amser hwn dros un diwrnod yr wythnos.
Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sy’n agored i’r cyhoedd ac sy’n darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi, gan ganiatáu i chi gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant.
Mae yna bwyslais ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol.
Byddwch yn cymryd rhan mewn rhaglen ffyniannus o weithgareddau gan gynnwys teithiau a digwyddiadau ynghyd â chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol.
Mae’r cwrs trin gwallt lefel dau yn cynnwys unedau gorfodol a gyflwynir dros flwyddyn yn rhan-amser:
- Y grefft o drin gwallt
- Ymgynghoriad cleient ar gyfer gwasanaethau gwallt
- Dilyn ymarfer iechyd a diogelwch yn y salon
- Gweithio yn y diwydiant gwallt
- Siampŵo a chyflyru’r gwallt a chroen y pen
- Lliwio a goleuo gwallt
- Torri gwallt menywod
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gwrs lefel uwch, prentisiaeth ac yn y pen draw i waith fel trinydd gwallt iau.
Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.
Byddai dilyniant i gwrs diploma lefel dau neu mewn salonau masnachol neu’n gweithio mewn diwydiannau fel teledu, ffilm, theatr a’r cyfryngau, llongau gwyliau, cwmnïau gwneud wigiau, siopau barbro a hunangyflogaeth.
Fel rhan o’r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
- Arholiad ymarferol
- Asesiadau parhaus
- Portffolio o dystiolaeth
- Asesiadau ysgrifenedig
Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad fodd bynnag mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil galwedigaethol.
Mae arnom angen o leiaf pedwar TGAU ar raddau A* i D gyda dwy radd C, gydag un naill ai’n Gymraeg (iaith gyntaf)/ Saesneg neu fathemateg. Neu rydym yn derbyn cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol.
Ffi’r cwrs rhan-amser hwn ar hyn o bryd yw £275 (band K).
Cewch fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau yn y coleg ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad cychwyn a gellir rhoi cyngor yn y cyfweliad.
Trefnir amrywiol deithiau trwy gydol y flwyddyn academaidd sy’n ymwneud â’r diwydiant gwallt, y bydd gofyn i chi dalu cyfraniad tuag atynt.