Lefel 3 mewn Therapi Harddwch (Cwrs Coleg, Lefel 3)
- Campws Aberteifi
Mae therapi harddwch yn yrfa sy’n amrywiol iawn gan y gall arwain at rolau mewn salonau, sbas, llongau gwyliau a gwestai.
Os ydych yn awyddus i ddechrau gyrfa yn y diwydiant harddwch, mae hwn yn gwrs cyffrous, a fydd yn eich galluogi i weithio gyda’r cyhoedd yn ein cyfleuster salon o’r radd flaenaf, Academi Steil, sy’n salon masnachol cwbl weithredol.
Byddwch yn dysgu ac yn datblygu sgiliau ymarferol yn y canlynol: monitro gweithdrefnau er mwyn rheoli gweithrediadau gwaith yn ddiogel,
darparu triniaethau tylino’r corff, cyfrannu at gynllunio a gweithredu gweithgareddau hyrwyddo, tylino pen Indiaidd, tylino cerrig poeth a thylino gan ddefnyddio olewau aromatherapi wedi’u cymysgu’n barod, triniaethau trydanol ar gyfer yr wyneb. Byddwch hefyd yn astudio anatomeg a ffisioleg i ennill gwybodaeth greiddiol am yr unedau uchod.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae ein salonau gwallt a harddwch yn eithriadol ac yn caniatáu i chi hyfforddi a gweithio mewn amgylchedd salon masnachol, gan weithio ar aelodau’r cyhoedd yn wythnosol. Byddwch hefyd yn cael y cyfle i fynychu: sioeau masnach, seminarau, gweithdai yn ogystal â theithiau a drefnir sy’n gysylltiedig â’r sector a chymryd rhan mewn cystadlaethau.
insert info
Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi ar gyfer diwydiant ac yn rhoi’r sgiliau sydd eu hangen arnoch i weithio mewn salonau, sbas, siopau adrannol, gwestai, llongau gwyliau, yn ogystal â hunangyflogaeth. Mae llawer o fyfyrwyr o Goleg Ceredigion wedi mynd ymlaen i sefydlu eu busnesau eu hunain neu i weithio i sbas yn eu hardal leol ac ymhellach i ffwrdd. Mae hwn yn gwrs rhagorol sy’n darparu’r cyfle i chi hogi eich sgiliau gwasanaeth cwsmer, i weithio gyda’r cyhoedd ac i adeiladu enw da a chronfa gleientiaid.
Cewch eich asesu’n ymarferol yn y salon a bydd angen i chi sefyll profion uned i arddangos eich gwybodaeth yn y pynciau uchod.
Rhaid bod ymgeiswyr wedi cwblhau diploma lefel dau mewn therapi harddwch a mynychu cyfweliad yn llwyddiannus gyda thiwtor y cwrs. Mae angen ymrwymiad i weithio gyda’r cyhoedd mewn amgylchedd salon ac agwedd bositif tuag at astudio. Mae prynu tiwnig harddwch a chit harddwch yn un o ofynion y cwrs.
Mae prynu tiwnig harddwch a chit harddwch yn un o ofynion y cwrs. Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru. Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.