Mynediad i Addysg Uwch - Celf a Dylunio (Cwrs Coleg)
- Campws Y Graig
Mae trin gwallt yn caniatáu i chi fynegi eich creadigrwydd trwy amrywiol dechnegau steilio gwallt, cyfuniadau lliw, a thriniaethau gwallt.
Mae’r cymhwyster lefel dau hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd ag uchelgais i weithio yn y diwydiant trin gwallt.
Byddwch yn dysgu am driniaethau trin gwallt sylfaenol a byddwn yn rhoi sail dda i chi allu symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch.
Wrth ddysgu yn salon masnachol y coleg, byddwch yn datblygu’r sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer eich llwybr gyrfa fel trinydd gwallt.
Yn ystod y cwrs cewch eich cynorthwyo i ddatblygu arbenigedd ymarferol a gwybodaeth hanfodol er mwyn symud ymlaen yn y diwydiant.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r cyfleoedd ymarferol i chi sy’n caniatáu i chi gwblhau eich aseiniadau a rhoi eich sgiliau ar waith mewn amgylchedd salon trin gwallt go iawn.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r coleg yn rhedeg salon hyfforddi masnachol sydd ar agor i’r cyhoedd. Mae’r profiad hwn yn darparu amgylchedd gwaith go iawn i chi ac yn caniatáu i chi gael ymdeimlad o sut y bydd yn teimlo i weithio yn y diwydiant.
Mae yna bwyslais hefyd ar eich cynorthwyo i ddod yn ddysgwr annibynnol trwy gynllunio, gosod targedau a datblygiad unigol.
Byddwch yn cymryd rhan mewn rhaglen ffyniannus o weithgareddau sy’n cynnwys teithiau a digwyddiadau yn ogystal â chymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau cenedlaethol sy’n gallu arwain at gystadlaethau rhyngwladol.
Mae hwn yn gwrs llawn amser a fydd yn cynnwys gweithio un noson yr wythnos yn salon y coleg.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys unedau gorfodol a gyflwynir dros flwyddyn:
- Ymgynghori â chleientiaid a’u cynghori
- Torri gwallt gan ddefnyddio technegau sylfaenol
- Siampŵo, cyflyru a thrin gwallt a chroen y pen
- Lliwio a goleuo gwallt
- Steilio a gorffennu gwallt
- Setio a gwisgo gwallt
- Datblygu a chynnal effeithiolrwydd yn y gwaith
- Cyflawni dyletswyddau derbynfa salon
- Plethu a thwistio gwallt
Ochr yn ochr â’ch prif gymhwyster, cewch gyfle i wella eich graddau naill ai drwy ailsefyll pynciau TGAU neu Sgiliau Hanfodol mewn llythrennedd a rhifedd, a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau pellach, datblygu eich hyder a’ch opsiynau gyrfa.
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch, prentisiaethau ac yn y pen draw i waith fel trinydd gwallt iau.
Mae ymgymryd â’r hyfforddiant cywir ar gychwyn eich gyrfa yn fuddsoddiad hirdymor gwych o ran eich rhagolygon gyrfa.
Yn dilyn y cwrs, gallech symud ymlaen i wneud cais am gwrs diploma lefel tri neu gael cyflogaeth mewn salonau masnachol, gwaith teledu, ffilm, theatr a’r cyfryngau, llongau gwyliau, cwmnïau gwneud wigiau, siopau barbro neu hunangyflogaeth. Gall tîm entrepreneuraidd yn y coleg gynnig arweiniad ar hunangyflogaeth.
Fel rhan o’r rhaglen hon bydd y dulliau asesu canlynol yn cael eu defnyddio:
- Arholiad ymarferol
- Asesiadau parhaus
- Portffolio o dystiolaeth
- Asesiadau ysgrifenedig
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig.
Bydd addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn yn cael ei asesu mewn cyfweliad, fodd bynnag, mae angen agwedd gadarnhaol at ddysgu sgil galwedigaethol.
Bydd angen o leiaf pedwar TGAU arnoch ar raddau A* i D gyda dwy radd C, gydag un naill ai’n Gymraeg (iaith gyntaf)/Saesneg neu fathemateg. Neu byddwn yn derbyn cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol.
Mae Saesneg a mathemateg yn rhan annatod o’r cwrs. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yn hyn wedi cael y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol gan ddibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Cewch fynediad i ystod o gyfarpar ac adnoddau fel rhan o’r cwrs hwn ond ar ben hynny, bydd angen prynu cynhyrchion traul ac iwnifform. Rhoddir y wybodaeth hon cyn eich dyddiad dechrau a gellir rhoi cyngor yn y cyfweliad.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol sy’n ymwneud â’ch cwrs.