
Mewn ymateb i’r galw cynyddol am archwilwyr EMS medrus, mae’r Cwrs Archwilydd EMS Mewnol Ardystiedig IEMA yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i weithwyr proffesiynol asesu, adrodd a gwella Systemau Rheolaeth Amgylcheddol (EMS) yn unol ag egwyddorion archwilio ISO 14001:2015 ac ISO 19011.
Mae’r cwrs hwn yn arbennig o werthfawr i’r rheiny sy’n gyfrifol am sicrhau effeithiolrwydd a gwelliant parhaus EMS sefydliad. Mae’n rhoi hyfforddiant manwl ar arferion gorau archwilio mewnol, sicrhau cydymffurfiad ag ISO 14001 a chefnogi busnesau sy’n paratoi ar gyfer ardystio neu gofrestru. Gydag ISO 17021-1:2015 yn gofyn am archwiliadau allanol i asesu trefniadau archwilio mewnol sefydliad, mae cael archwilwyr mewnol cymwys yn hanfodol i fodloni’r gofynion hyn.
Trwy weithdai rhyngweithiol, astudiaethau achos, ac ymarferion archwilio ymarferol, bydd cyfranogwyr yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i gynnal archwiliadau mewnol effeithiol sy’n ychwanegu gwerth. Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn barod nid yn unig i fodloni disgwyliadau rheoleiddiol ond hefyd i roi hyder i’ch sefydliad - a’i fudd-ddeiliaid - bod ei EMS yn cyflawni gwelliannau gwirioneddol, mesuradwy.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Pellter
£781 y pen (Cyllid CDP ar gael)

Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae’r cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth gynhwysfawr o archwilio amgylcheddol, gan roi’r sgiliau i chi asesu, gwella a sicrhau cydymffurfiad o fewn System Reolaeth Amgylcheddol (EMS). Byddwch yn ennill arbenigedd mewn safonau EMS allweddol, technegau archwilio, deddfwriaeth amgylcheddol, ac arferion gorau ar gyfer nodi effeithiau amgylcheddol a gyrru gwelliant parhaus. Trwy ymarferion ymarferol ac astudiaethau achos o’r byd go iawn, byddwch yn datblygu’r hyder i gynnal archwiliadau mewnol effeithiol a chefnogi’ch sefydliad i gyflawni cyrchnodau cynaladwyedd a chydymffurfiad rheoleiddiol.
- Pryderon amgylcheddol, nodi dangosyddion perfformiad amgylcheddol allweddol a gwelliant amgylcheddol parhaus.
- Safonau a gofynion EMS (ISO 14001, Y Ddraig Werdd, BS8555).
- Agweddau ac effeithiau amgylcheddol (nodi a chwblhau’r gofrestr agweddau).
- Sgiliau a thechnegau archwilio.
- Cynllunio archwiliadau (archwiliadau safle, defnyddio rhestrau gwirio, technegau cyfweld, beth i chwilio amdano i sicrhau cydymffurfiad).
- Sut i gwblhau a gweithredu rhaglen archwilio fewnol (diffyg cydymffurfiad, camau cywirol a gwaith dilynol).
- Ymarfer ymarferol yn cynnal archwiliad EMS mewnol.
- Deddfwriaeth amgylcheddol (gweithredu Cofrestr Gyfreithiol).
- Ffynonellau gwybodaeth a datblygiad pellach
- Arholiad.
Mae’r cwrs wedi’i anelu at yr unigolion hynny o fewn sefydliadau sy’n gyfrifol am archwilio EMS. Fe’i cynlluniwyd i roi dealltwriaeth ymarferol i unigolion o’r broses archwilio EMS a sut y dylid ei chymhwyso i EMS eu sefydliad eu hunain. Bydd y cwrs yn ymarferol ac yn rhyngweithiol i hwyluso profiad dysgu’r dysgwr a’i alluogi i ymarfer y sgiliau mae newydd eu hennill. Ni ddisgwylir i ddysgwyr feddu ar lefel fanwl o wybodaeth am EMS ac archwilio cyn y cwrs, ond dylai fod ganddynt wybodaeth sylfaenol am faterion amgylcheddol sy’n berthnasol i’w sefydliad.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill yr Academi Sgiliau Gwyrdd megis:
IEMA Tystysgrif Sylfaen mewn Rheolaeth Amgylcheddol