
Dewch yn archwilydd amgylcheddol arweiniol gyda’n Cwrs Hyfforddi Archwilwyr Arweiniol ISO 14001 ac ennill cymhwyster a fydd yn cyfrannu at gofrestriad archwilydd yr IEMA. Fel archwilydd arweiniol, byddwch yn parhau i fod ar flaen y gad o ran strategaeth y System Reolaeth Amgylcheddol a byddwch yn hybu effeithlonrwydd yn unol ag ISO 14001 a gallwch chwarae rôl ganolog mewn sicrhau bod eich sefydliad wedi ymrwymo i arfer gorau amgylcheddol.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Pellter
£1080 y pen

Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae ein cwrs Archwilydd Amgylcheddol Arweiniol IEMA yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol i chi arwain archwiliadau amgylcheddol cynhwysfawr, gan sicrhau cydymffurfiad â deddfwriaeth a llywio arferion cynaliadwy ar draws diwydiannau amrywiol. Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n ceisio datblygu eu galluoedd archwilio a chymryd rolau arwain mewn rheolaeth amgylcheddol.
Drwy gwblhau’r cwrs hwn, byddwch yn ennill y sgiliau a’r wybodaeth allweddol canlynol:
● Gwerthuso Materion Amgylcheddol Cyfredol: Deall ac asesu heriau amgylcheddol allweddol a’u cydberthnasoedd, a sut maen nhw’n effeithio ar y broses archwilio mewn amrywiol sectorau.
● Nodi Agweddau ac Effeithiau Amgylcheddol: Dysgu’r technegau ar gyfer nodi a gwerthuso agweddau ac effeithiau amgylcheddol yn effeithiol, gan alluogi asesu perfformiad amgylcheddol yn gywir.
● Asesu Arwyddocâd Effeithiau Amgylcheddol: Deall a gwerthuso arwyddocâd effeithiau amgylcheddol, gan eich galluogi i flaenoriaethu a rheoli prif feysydd sy’n peri pryder.
● Dadansoddi Amcanion a Rheolaethau Amgylcheddol: Ennill y sgiliau i asesu a dilysu amcanion amgylcheddol, targedau, systemau rheolaeth, a chyfundrefnau monitro, wedi’u teilwra i wahanol ddiwydiannau ac anghenion sefydliadol.
● Deall Deddfwriaeth Amgylcheddol Allweddol: Nodi a gwerthuso deddfwriaeth amgylcheddol berthnasol a gofynion cydymffurfio, gan ddeall eu rôl a’u pwysigrwydd yng nghyd-destun archwilio amgylcheddol.
● Mathau o Archwiliadau a’u Cymwysiadau: Dysgu am y gwahanol fathau o archwiliadau amgylcheddol a’r berthynas rhyngddynt, ynghyd â’u cymwysiadau penodol mewn amrywiol gyd-destunau sefydliadol.
● Rolau a Chyfrifoldebau mewn Archwiliadau: Cael dealltwriaeth glir o rolau a chyfrifoldebau’r archwilydd arweiniol, y tîm archwilio, a budd-ddeiliaid allweddol eraill wrth sicrhau llwyddiant y broses archwilio.
● Cynllunio a Rheoli Rhaglenni Archwilio: Datblygu’r sgiliau i gynllunio, cychwyn, rheoli, a monitro ystod eang o raglenni archwilio, gan sicrhau eu bod yn cael eu gweithredu a’u hadolygu’n effeithiol.
● Arwain a Rheoli Archwiliadau yn Effeithiol: Arddangos y cymwyseddau sydd eu hangen ar gyfer arwain archwiliad amgylcheddol, a deall y sgiliau hanfodol sydd eu hangen ar gyfer rheoli tîm archwilio llwyddiannus.
Mae’r cwrs hwn wedi’i anelu at raddedigion astudiaethau amgylcheddol neu weithwyr proffesiynol sydd â rhywfaint o wybodaeth am reolaeth perfformiad amgylcheddol sefydliadol gan gynnwys safonau system.
Rhaid i bawb sy’n mynychu fod yn gyfarwydd â thestun ISO 14001 (neu EMAS yn yr UE), naill ai trwy fynychu cwrs Ardystiedig/Cymeradwy IEMA neu drwy gwblhau gwaith cyn y cwrs a gynlluniwyd i sicrhau’r ddealltwriaeth hon.
Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, ystyrir bod dysgwyr yn gallu cynnal archwiliadau amgylcheddol gyda goruchwyliaeth.
Bydd dysgwyr wedi datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ddigonol i allu arwain archwiliadau amgylcheddol ar ôl cael profiad digonol
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill yr Academi Sgiliau Gwyrdd megis:
IEMA Tystysgrif Sylfaen mewn Rheolaeth Amgylcheddol
IEMA Tystysgrif mewn Rheolaeth Amgylcheddol
IEMA Archwilydd Systemau Rheolaeth Amgylcheddol Mewnol (EMS)