Skip page header and navigation

IEMA Llwybrau i Sero Net (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

  • Campws y Gelli Aur
  • Ar-Lein
2 Diwrnod

Mae Cwrs Llwybrau i Sero Net IEMA yn rhoi arweiniad clir, cyson ar arfer gorau ynghylch ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Nod y cwrs yw rhoi trosolwg strategol a gweithredol i oruchwylwyr ac arweinwyr ar gynaladwyedd amgylcheddol fel y mae’n effeithio ar eu diwydiant a’u maes gwaith penodol nhw.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
  • Pellter
Hyd y cwrs:
2 Diwrnod
Achrededig:
IEMA logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

Ar ôl ei gwblhau, bydd dysgwr ar y cwrs hwn yn gallu esbonio beth yw sero net, a brys y wyddoniaeth hinsawdd sydd wrth wraidd gyrru’r agenda sero net. Bydd yn gallu egluro risgiau a chyfleoedd sero net gan gynnwys hyfywedd busnes yn y dyfodol, enw da, gwendidau’r gadwyn gyflenwi, manteision busnes ac amgylcheddol nwyddau a gwasanaethau carbon isel a llawer mwy.

Mae Llwybrau i Sero Net wedi’i anelu at bobl a allai fod yn:
● Gyfrifol am ddatblygu dull sero net (neu strategaeth lleihau carbon arall) ar gyfer eu sefydliad
● Cefnogi strategaeth sero net bresennol
● Arbenigwr amgylcheddol/cynaladwyedd gyda sero net fel cyfrifoldeb newydd
● Sy’n gyfrifol am gyfathrebu neu helpu i gyfathrebu dull sero net sefydliad
● Cyfrifol am ddatgarboneiddio rhan benodol o sefydliad, e.e. cadwyn gyflenwi, teithio busnes, ystadau ac ati.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus bydd gan ddysgwyr wybodaeth fanwl am Sero Net, y brys y tu ôl iddo a’r gwahanol ffyrdd y gallwn chwarae ein rhan wrth ymateb i’r argyfwng hinsawdd.