Skip page header and navigation

IEMA Tystysgrif mewn Rheolaeth Amgylcheddol

Ydych chi’n bwriadu uwchsgilio neu gynyddu eich gwybodaeth er mwyn datblygu eich gyrfa? Bydd cwrs Tystysgrif mewn Rheolaeth Amgylcheddol IEMA yn rhoi’r wybodaeth fanwl am yr amgylchedd a chynaladwyedd i chi rydych chi’n ei cheisio. Yn ogystal â gwella eich gwybodaeth, mae’r cwrs hwn yn mynd cam ymhellach gan ddarparu’r gallu i chi ddefnyddio offer rheolaeth amgylcheddol ac asesu sydd eu hangen i fod yn ymarferwr effeithiol.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
  • Pellter
Hyd y cwrs:
15 Niwrnod
Achrededig:
IEMA logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.

Mae maes llafur y cwrs Tystysgrif mewn Rheolaeth Amgylcheddol IEMA yn cwmpasu ystod eang o faterion amgylcheddol a chynaladwyedd er mwyn eich galluogi i ddod yn ymarferwr sy’n gallu gyrru newid mewn sefydliadau. Caiff dull ymarferol ei fabwysiadu i alluogi sefydliadau i wella eu perfformiad amgylcheddol a lleihau eu heffeithiau, strategol a gweithredol ill dau.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn sefydliadau ar lefel weithredol ac sy’n dilyn llwybr gyrfaol mewn amgylchedd a chynaladwyedd. Bydd unigolion yn gweithio o fewn rheolaeth amgylcheddol neu gynaladwyedd a byddant angen gwybodaeth fanwl o egwyddorion amgylcheddol a chynaladwyedd, offer rheoli a sgiliau eraill er mwyn cyflwyno newid cadarnhaol yn effeithiol.

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill megis y cwrs Sgiliau Cynaladwyedd Amgylcheddol i Reolwyr IEMA.