
IEMA Sgiliau Cynaladwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithlu
- Campws y Gelli Aur
- Ar-Lein
Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd sy’n gofyn am newid ar frys i’r ffordd rydym i gyd yn gwneud busnes. Ewch ati i drawsnewid y ffordd rydych yn gweithio gyda chwrs Sgiliau Cynaladwyedd Amgylcheddol ar gyfer y gweithlu IEMA. Mae’r cwrs undydd dwys, rhagarweiniol hwn yn rhoi cyflwyniad ymarferol i ddysgwyr i gynaladwyedd amgylcheddol gan sicrhau eu bod yn meddu ar y wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r cymhelliant i greu effaith gynaliadwy fesuradwy yn eu sefydliad.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Pellter
Prisiau o £160 y pen

Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.
Mae’r cwrs hwn yn ymdrin â phynciau amrywiol sy’n galluogi unigolion i ddatblygu sgiliau’r gweithlu yn gyflym i gynyddu perfformiad, effeithlonrwydd ac effaith. Mae’n rhoi sicrwydd i arweinwyr bod gennych y sgiliau i gyflawni newid ymarferol trwy arbedion effeithlonrwydd syml. Yn ogystal, rhoi busnesau mewn sefyllfa i ennill tendrau ychwanegol trwy gydymffurfiaeth fwy cyson ac ymroddiad i gynaladwyedd.
Ar gwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, bydd gan y dysgwr wybodaeth a dealltwriaeth o:
● Y prif risgiau a chyfleoedd amgylcheddol ac economaidd.
● Rhwymedigaethau cydymffurfio ac ysgogwyr busnes ar gyfer newid.
● Y prif effeithiau posibl ar yr amgylchedd a chynaladwyedd.
● Sut i wella perfformiad amgylcheddol.
Mae’r cwrs hwn yn berffaith ar gyfer y rheiny sy’n gweithio mewn unrhyw swydd ar draws pob sector ar lefel weithredol.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill yr Academi Sgiliau Gwyrdd megis: