Skip page header and navigation

Tystysgrif Sylfaen mewn Rheolaeth Amgylcheddol (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

Ydych chi’n newydd i gynaladwyedd amgylcheddol, neu ar ddechrau eich gyrfa ac yn chwilio am gydnabyddiaeth? Mae’r ymgyrch tuag at gynaladwyedd a’r awydd am Sgiliau Gwyrdd wedi agor llwybrau proffesiynol newydd ar draws pob sector ac mae cwrs Tystysgrif Sylfaen mewn Rheolaeth Amgylcheddol IEMA yn ffordd berffaith i ddangos bod gennych y wybodaeth a’r sgiliau i fod yn llwyddiannus mewn gyrfa ym maes cynaladwyedd.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Wyneb i Wyneb
  • Pellter
Hyd y cwrs:
5 Diwrnod
Achrededig:
IEMA logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.

Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen o wybodaeth amgylcheddol a chynaladwyedd i unigolion adeiladu arni. Gan ymdrin ag ystod eang o egwyddorion amgylcheddol, cynaladwyedd a rheolaeth, bydd y cwrs hwn yn rhoi dealltwriaeth i ddysgwyr o ehangder yr agenda cynaladwyedd, a’r offer a’r sgiliau rheoli y bydd eu hangen arnynt wrth weithio yn y maes hwn.

Mae’r cwrs hwn ar gyfer unigolion sy’n dechrau, neu’n newid, i yrfa mewn rolau sy’n canolbwyntio ar yr amgylchedd neu gynaladwyedd. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol ar ddysgwyr cyn dilyn y cwrs hwn gan y bydd hwn yn paratoi unigolion drwy roi iddynt bopeth y mae angen iddynt ei wybod i gychwyn eu taith.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn wych ar gyfer pobl sy’n gweithio mewn proffesiynau eraill, fel marchnata neu gyllid, i gael dealltwriaeth sylfaenol o gynaladwyedd y gallent ei chymhwyso yn eu rôl.

Mae’r cwrs hwn yn rhagflaenydd rhagorol i ddatblygiad proffesiynol pellach, gan gynnwys cwrs Sgiliau Cynaladwyedd Amgylcheddol i Reolwyr IEMA.