
Mae cwrs Cyflwyniad i Sero Net IEMA yn rhoi arweiniad clir, cyson ar arfer gorau mewn ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd. Nod y cwrs yw darparu sylfaen a throsolwg gweithredol o gynaladwyedd amgylcheddol fel y mae’n effeithio ar eu diwydiant ac ardal waith benodol.
Nid yw’r cwrs hwn wedi’i ariannu gan gyllid CDP, holwch am y gost.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
- Pellter
Holwch am y gost

Disgrifiad o'r Rhaglen
Unwaith ei fod wedi’i gwblhau, bydd dysgwr ar y cwrs hwn yn gallu:
- Esbonio beth yw sero net a thermau perthynol
- Esbonio brys y wyddoniaeth hinsawdd sylfaenol sy’n gyrru’r agenda sero net.
- Esbonio’r prif gyd-destun polisi cenedlaethol ar gyfer ymateb i’r argyfwng hinsawdd
- Esbonio cyd-destun a’r ffactorau sy’n gyrru polisi’r DU
- Esbonio manteision busnes ac amgylcheddol sero net
- Esbonio amlinelliad o ddull sero net cadarn
- Esbonio egwyddorion allweddol wrth gyfathrebu honiad sero net ac osgoi gwyrddgalchu
Bydd y cwrs hwn yn apelio at y rheiny sy’n bwriadu ennill gwybodaeth sylfaenol am sero net o fewn eu gallu nhw eu hunain. Bydd y cwrs hwn hefyd yn offeryn pwerus ar gyfer busnesau sydd ar y ffordd tuag at sero net ac yn darparu dull i godi ymwybyddiaeth ar draws y busnes.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus dylai dysgwyr ystyried y cwrs Sgiliau Cynaladwyedd Amgylcheddol i Reolwyr IEMA neu’r cwrs Sgiliau Cynaladwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithle IEMA.