Skip page header and navigation

Prentisiaeth mewn Rheoli Ynni - Lefel 3

  • Campws y Gelli Aur
15 Mis

Mae’r Brentisiaeth Lefel 3 mewn Rheoli Ynni wedi’i chynllunio i roi’r arbenigedd i chi sydd ei angen i yrru effeithlonrwydd ynni a chynaladwyedd yn eich gweithle. 

Gyda Chymru yn sefydlu ei hun fel arweinydd mewn rheoli ynni dros y 5–7 mlynedd nesaf, mae’r cymhwyster hwn yn cefnogi busnesau o ran lleihau costau, bodloni targedau lleihau carbon, ac ymgorffori arferion cynaliadwy.

Buddion Allweddol i Gyflogwyr

  • Lleihau Costau ac Effeithlonrwydd – Bydd prentisiaid yn nodi cyfleoedd i leihau costau ynni a gwella effeithlonrwydd gweithredol.
  • Cydymffurfiad Rheoleiddiol – Sicrhau bod eich busnes yn bodloni gofynion amgylcheddol a chyfreithiol (e.e, ISO, y Ddraig Werdd, Safon Ansawdd Tai Cymru (WHQS), mentrau cynaladwyedd Llywodraeth Cymru).
  • Cynaladwyedd a Chyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol (CSR) – Cryfhewch ymrwymiad eich sefydliad i gyrchnodau Sero Net a lleihau carbon.
  • Datblygu’r Gweithlu – Adeiladwch arbenigedd yn fewnol a pharatowch alluoedd rheoli ynni eich sefydliad ar gyfer y dyfodol.
  • Mantais Gystadleuol Well – Caiff sefydliadau sydd â chymwysterau rheoli ynni cryf eu ffafrio fwyfwy o ran penderfyniadau caffael a’r gadwyn gyflenwi.

Ar hyn o bryd rydyn ni ond yn cymryd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y cwrs newydd hwn. Camau nesaf:

  1. Enwebwch weithiwr cyflogedig presennol i ymgymryd â’r brentisiaeth hon neu mynnwch sgwrs gyda’ch cyflogwr ynghylch y cyfle.
  2. Cwblhewch ein ffurflen ymholiadau i fynegi diddordeb.
  3. Trafodwch fanylion pellach gydag un o’n tîm ymgysylltu â chyflogwyr

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Rhan amser
Iaith:
  • Cymysg
Hyd y cwrs:
15 Mis

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r brentisiaeth hon yn cynnwys tair elfen hanfodol:

  1. Diploma Lefel 3 Agored Cymru mewn Rheoli Ynni a Charbon 

Mae’n cwmpasu pynciau allweddol megis effeithlonrwydd ynni, lleihau carbon, cydymffurfiad, a strategaethau cynaladwyedd.

  1. Cymwysterau Sgiliau Hanfodol 

Lefel 2 mewn Rhifedd, Cyfathrebu, a Llythrennedd Digidol (oni bai y delir cymwysterau blaenorol fel TGAU neu gymwysterau cyfwerth).

  1. Gwaith Prosiect yn y Gweithle

Byddwch yn cymhwyso eich dysgu i heriau sefydliadol bywyd go iawn, gan gyfrannu at arbedion ynni gwirioneddol a gwelliannau cynaladwyedd ar gyfer eich gweithle.

Byddai gweithwyr cyflogedig yn y rolau canlynol yn elwa’n benodol:

  • Rheolwyr Ynni Iau
  • Dadansoddwyr Ynni
  • Rheolwyr Cyfleusterau
  • Timau Cyllid (sy’n ymwneud â chyllidebau ynni)
  • Peirianwyr Cylchred Oes/Cynnal a Chadw
  • Rheolwyr Ynni Newydd
  • Arbenigwyr Ynni sy’n Uwchsgilio
  • Hybwyr Ynni/Sero Net/Carbon
  • Goruchwylwyr Ynni Adeiladau
Mae unedau’r cwrs yn cynnwys:
Egwyddorion Rheoli Ynni a Charbon
  • Deall deddfwriaeth a rheoliadau diwydiant 
  • Deall economeg defnyddio ynni, ei gyflenwi a’r galw amdano a materion cynaladwyedd 
  • Deall sut mae rheoli dŵr a gwastraff yn gysylltiedig â rheoli ynni
Dadansoddi Defnyddio Ynni ac Allyriadau Carbon 
  • Deall egwyddorion asesu colli ynni 
  • Gallu rhoi cynlluniau metru a mesur ar waith
  • Gallu ymgymryd â dadansoddiadau ac archwiliadau
  • Gallu gwneud argymhellion yn seiliedig ar ganlyniadau’r dadansoddiad data 
Newid Ymddygiadol o fewn y Gweithle
  • Gallu cyfathrebu newidiadau ymddygiadol gofynnol yn ymwneud â defnyddio ynni ac ymwybyddiaeth o allyriadau carbon 
  • Gallu cyfrannu at ymwybyddiaeth o arbed ynni a monitro effeithiolrwydd  ymgyrchoedd  
Iechyd a Diogelwch mewn Rheoli Ynni 
  • Adnabod y deddfau a’r canllawiau sefydliadol yn ymwneud ag iechyd a diogelwch o ran rheoli carbon ac ynni.
  • Gallu gweithredu dan system waith ddiogel o ran rheoli carbon ac ynni
Caffael ynni
  • Deall tariffau ynni, biliau a’r broses o gaffael ynni
  • Gallu cyfrannu at strategaeth gaffael sefydliad ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau ynni.
Rheoli Prosiectau Ynni a Charbon
  • Gallu cynllunio prosiectau rheoli ynni a charbon.
  • Gallu addasu ac ymateb yn effeithiol i newid annisgwyl a delio gyda risgiau wrth gefn.
  • Gallu gwerthuso canlyniadau’r prosiect rheoli ynni ac adrodd amdano.
Rheoli Carbon Trafnidiaeth
  • Adnabod mentrau/polisïau perthnasol sy’n gysylltiedig â thrafnidiaeth, cynllunio ar gyfer teithio a systemau gweithredol logisteg o fewn cyd-destun rheoli ynni yn y gweithle.
  • Gallu casglu data’n ymwneud â defnyddio ynni sy’n gysylltiedig â thrafnidaeth a logisteg
Rheoli Gwastraff
  • Adnabod gwahanol fathau o wastraff a gynhyrchir gan sefydliad a sut y caiff hwn ei fonitro.
  • Deall deddfwriaeth a mentrau cenedlaethol yn ymwneud â rheoli gwastraff mewn sefydliad.
  • Deall sut y gellir defnyddio gwastraff fel adnodd
Ymgysylltu â’r Gymuned
  • Deall pwysigrwydd sefydliad yn cysylltu â’r gymuned leol wrth reoli ynni a charbon.
  • Gallu cyfathrebu rheoli ynni a mesurau carbon gyda’r gymuned leol.

Mae dulliau asesu’n cynnwys portffolio gwaith cwrs, cwestiynu ysgrifenedig a llafar, arsylwadau seiliedig ar waith a thystiolaeth ymarferol. Nid oes unrhyw arholiadau traddodiadol; mae pob asesiad wedi’i gynllunio i adlewyrchu senarios y byd go iawn.

Caiff prentisiaethau yng Nghymru eu hariannu’n llawn, os ydych yn ddysgwr cymwys. Gall costau ychwanegol gynnwys gwerslyfrau a deunyddiau dysgu opsiynol. Rhaid bod prentisiaid yn gyflogedig ac yn cael eu cefnogi’n llawn gan eu cyflogwyr ar hyd y rhaglen. Mae ffioedd aelodaeth broffesiynol yn berthnasol ac yn cael eu talu’n flynyddol gan y prentis.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 16 oed neu’n hŷn ac yn gyflogedig.

Mae gofynion mynediad yn hyblyg, gyda chyfweliadau cychwynnol a sgriniwr sgiliau sylfaenol i bennu’r lefel briodol. 

Bydd angen Cymwysterau Sgiliau Hanfodol mewn Cymhwyso Rhif, Cyfathrebu a Llythrennedd Digidol os nad ydynt wedi’u hennill yn flaenorol. 

Mae gweithwyr cyflogedig newydd a rhai presennol hefyd yn gymwys.