gwyrdd24
Grymuso gwybodaeth ym maes cynaladwyedd
Intro Text
Yn 2019, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Argyfwng Hinsawdd…
gan gydnabod yr angen brys i fynd i’r afael â Newid yn yr Hinsawdd. Mae’r datganiad hwn yn tanlinellu difrifoldeb yr heriau amgylcheddol sy’n ein hwynebu a’r angen am ymdrechion ar y cyd ar draws ein cymdeithas. Rydym yn wynebu ras i sero net erbyn 2030 ac mae’n hanfodol ein bod ni’n arfogi’n hunain â’r wybodaeth a’r sgiliau angenrheidiol i gwrdd â’r her hon yn uniongyrchol. A dyna’n union yw pwrpas y prosiect hwn.
Gwyrdd 24 yw ein hymateb i’r alwad honno i weithredu. Ariennir Gwyrdd 24 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin, Llywodraeth y DU. Mae’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gyfle i gymunedau lleol lefelu drwy roi’r cyfarpar sydd ei angen ar unigolion a busnesau ledled Sir Gaerfyrddin nid yn unig i oroesi ond i ffynnu, gan gyfrannu hefyd at newid amgylcheddol cadarnhaol.
Mae Gwyrdd 24, menter gyntaf o’i math ar gyfer Sir Gaerfyrddin, wedi’i dylunio a’i hysgogi gan arbenigwyr yn y diwydiant a fydd yn rhoi eu profiad a’u gwybodaeth yn y byd go iawn i gyflogwyr, gweithluoedd ac aelodau’r cyhoedd, gan geisio mynediad i gyfleoedd dysgu ymarferol gwerthfawr y rhaglen. Mae prosiect Gwyrdd 24 yn daith gynhwysfawr tuag at gynaladwyedd, gan gynnig ystod amrywiol o gymwysterau wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion ein cymuned. I’r rheiny sy’n dyheu am arwain a dylanwadu, byddwn yn eich arfogi â’r cyfarpar i ysbrydoli newid yn eich cymunedau.
Cysylltwch
Ar gyfer bwciadau, dyddiadau cyrsiau sydd ar gael ac unrhyw gwestiynau eraill a all fod gennych, cysylltwch â ni ar 01554 748344 neu e-bostiwch greenskillsacademy@colegsirgar.ac.uk