Skip page header and navigation

Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl

  • Ar-Lein
1 Awr

Mae llawer o bobl yn gweld nad yw iechyd meddwl a salwch meddwl yn bynciau hawdd i siarad amdanynt, hyd yn oed gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr. Mae byw gydag iechyd meddwl gwael yn ofnadwy a gall deimlo fel nad ydych yn gallu estyn allan am gymorth a chefnogaeth. Dyma’r amser i godi ymwybyddiaeth a gwneud newidiadau i’r ffordd rydym yn meddwl am iechyd meddwl. Mae angen i ni fynd i’r afael â’r diwylliant rydym yn ei greu yn y gweithle a darparu’r cymorth iawn i bobl sy’n byw gyda salwch meddwl.

Manylion y cwrs

Hyd y cwrs:
1 Awr

£10

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r pynciau sy’n cael sylw yn y cwrs hwn yn cynnwys deall iechyd meddwl a salwch meddwl, beth sy’n gallu effeithio ar iechyd meddwl, iselder, gorbryder, straen. Wynebu’r stigma, beth yw lles, lles yn y gweithle a lles emosiynol.

Mae’r cwrs hawdd ei ddilyn, awr o hyd hwn gydag ymarferion rhyngweithiol yn archwilio effaith byw gyda heriau iechyd meddwl a sut i’w adnabod ynom ni ein hunain, ein cydweithwyr a sut i ymateb a gofyn am gymorth. Gellir gwneud cwis anffurfiol ar ddiwedd y sesiwn i gadarnhau dysgu a rhoddir tystysgrif Coleg Sir Gâr ar ôl ei gwblhau.

Cynlluniwyd y cwrs hwn ar gyfer unigolion y tu mewn a’r tu allan i’r gweithle sydd eisiau deall mwy am iechyd meddwl a’r camau i gefnogi rhywun sy’n cael trafferth gyda’u hiechyd meddwl neu eu hunain.

Yn dilyn cwblhau’r cwrs hwn, gall dysgwyr gwblhau’r cwrs Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl i Reolwyr ar-lein, y Dyfarniad Lefel 2 mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl neu’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl i Oruchwylwyr.