
Gall llwybr anadlu sydd wedi’i rwystro ladd rhywun mewn tair i bedair munud, ond gall gymryd mwy nag wyth munud i ambiwlans gyrraedd. Felly gall gweithdrefn syml fel agor llwybr anadlu rhywun achub ei fywyd wrth aros am gymorth brys i gyrraedd. Gall cymorth cyntaf achub bywydau.
Manylion y cwrs
£75 (yr unigolyn) / £800 (y grŵp - hyd at 12)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Bydd y cwrs hwn yn helpu i ddatblygu eich gwybodaeth am rôl a chyfrifoldebau swyddog cymorth cyntaf a sut i asesu digwyddiad. Bydd dysgwyr hefyd yn dysgu sgiliau cymorth cyntaf mewn adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a defnyddio AED (Diffibriliwr Allanol Awtomatig), darparu cymorth cyntaf i anafedig sy’n tagu a delio â gwaedu allanol a sioc hypofolemig.
Asesir y cwrs hwn trwy asesu ymarferol a chwestiynu ac ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus bydd gan y dysgwyr y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i roi cymorth cyntaf diogel, prydlon ac effeithiol mewn sefyllfaoedd brys.
Mae’r cwrs hwn ar gyfer unigolion a all fod angen darparu cymorth cyntaf i rywun sydd wedi’i anafu neu’n mynd yn sâl yn y gwaith. Mae’r cwrs yn addas ar gyfer cwmnïau bach, risg isel sydd angen darpariaeth cymorth cyntaf sylfaenol, neu ar gyfer cwmnïau mawr risg uchel sydd angen cymorth sylfaenol ar gyfer swyddogion cymorth cyntaf cyflawn.
Gellir defnyddio’r cwrs Lefel 3 Cymorth Cyntaf Brys hwn i gynorthwyo dilyniant gyrfa a gellir ei ddefnyddio i symud ymlaen i gyrsiau eraill ar yr un lefel neu lefel uwch.