Skip page header and navigation

IOSH Rheoli'n Ddiogel

  • Ar-Lein
3 Diwrnod

Y ffordd orau o sicrhau llwyddiant hyfforddiant diogelwch ac iechyd yw cael pobl i gymryd rhan lawn, cael hwyl a dysgu trwy wneud. Nod y cwrs hwn yw galluogi dysgwyr i feddwl o ddifrif am yr hyn maen nhw’n ei ddysgu - a chael yr hyder a’r brwdfrydedd i’w roi ar waith pan maen nhw yn ôl yn y gwaith - fel bod pawb yn sylwi ar y gwahaniaeth.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Pellter
Hyd y cwrs:
3 Diwrnod

£240

Achrededig:
IOSH logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

Nid yw Rheoli’n Ddiogel yn debyg i unrhyw gwrs arall. Mae’n rhaglen ymarferol, yn llawn arweiniad cam wrth gam gyda ffocws busnes craff. Mae’r wybodaeth yn y cwrs hwn yn hanfodol wrth gael diogelwch ac iechyd wedi’u hymgorffori ar draws unrhyw sefydliad. Mae ffeithiau cofiadwy a phryfoclyd ac astudiaethau achos o bob rhan o’r byd yn helpu i bwysleisio’r pwyntiau yn ystod y cwrs.

Caiff amrywiol bynciau eu cynnwys yn Rheoli’n Ddiogel gan gynnwys asesu a rheoli risgiau, deall cyfrifoldebau a pheryglon, ymchwilio i ddigwyddiadau a mesur perfformiad. Ategir pob modiwl gan enghreifftiau cwbl glir a senarios adnabyddadwy, ac mae crynodebau yn atgyfnerthu’r pwyntiau dysgu allweddol.

Mae’r cwrs Rheoli’n Ddiogel wedi’i gynllunio ar gyfer rheolwyr a goruchwylwyr mewn unrhyw sector, ac unrhyw sefydliad ar draws y byd. Ni fydd dysgwyr yn sydyn yn troi’n arbenigwyr diogelwch – ond fe fyddan nhw’n diweddaru eu gwybodaeth ynghylch y camau gweithredu ymarferol y mae angen iddynt eu cymryd, ac yn ennill y wybodaeth a’r offer i fynd i’r afael â’r materion diogelwch ac iechyd maen nhw’n gyfrifol amdanynt. Yn bwysicaf, mae’r cwrs Rheoli’n Ddiogel yn gwneud achos cryf dros ddiogelwch ac iechyd fel rhan hanfodol o reolaeth a busnes o ddydd i ddydd.

Yn dilyn cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn deall pwysigrwydd rheoli iechyd a diogelwch yn y gweithle. Byddan nhw’n gallu diffinio’r prif dermau sy’n ymwneud ag iechyd a diogelwch, ac yn deall sut i asesu, lleihau, nodi a rheoli risgiau yn y gweithle. Mesur iechyd a diogelwch yn eu gweithle eu hunain a chymhwyso egwyddorion arferion gorau i systemau iechyd a diogelwch eu sefydliad.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.