
Canfu astudiaeth y gallai 59% o farwolaethau a ddigwyddodd mewn gweithleoedd fod wedi cael eu hatal gan swyddogion cymorth cyntaf hyfforddedig. Gallai ymateb cyflym gan swyddog cymorth cyntaf olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth. Hyd yn oed ar gyfer anafiadau nad ydynt yn angheuol, gellir lleihau’r difrifoldeb a’r cyfnod adfer trwy roi cymorth cyntaf.
Manylion y cwrs
£210 (Unigol) £2000 (Grŵp hyd at 12 person)
Disgrifiad o'r Rhaglen
Mae’r cwrs hwn yn cwmpasu rolau a chyfrifoldebau’r swyddog cymorth cyntaf, sut i asesu digwyddiad ac adnabod arwyddion a symptomau anafiadau ac afiechyd. Bydd dysgwyr yn cwmpasu sgiliau cymorth cyntaf mewn CPR a defnydd AED (Diffibriliwr Allanol Awtomatig.) Yn ogystal â, chynorthwyo claf sy’n dioddef o anaf difrifol ac afiechyd megis anafiadau i’r frest, anafiadau i’r asgwrn cefn ac anaffylacsis.
Asesir y cwrs hwn trwy arsylwi a chwestiynu ymarferol ac ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus bydd gan ddysgwyr y wybodaeth a’r sgiliau i roi amrywiaeth eang o dechnegau cymorth cyntaf yn y gweithle yn hyderus o drin mân glwyfau i achub bywydau cydweithwyr mewn sefyllfaoedd sy’n bygwth bywyd.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd am ddod neu sydd wedi cael eu penodi i weithredu fel swyddog cymorth cyntaf yn eu gweithle. Mae hefyd yn ddelfrydol ar gyfer pobl sydd â chyfrifoldeb penodol i ddarparu cymorth cyntaf mewn gweithgareddau gwirfoddol a chymunedol.
Gellir defnyddio’r cwrs Lefel 3 Cymorth Cyntaf yn y Gwaith fel cam tuag at gymwysterau eraill ar yr un lefel neu lefel uwch. Gallai hefyd fod o fudd i ddilyniant gyrfa’r dysgwyr yn eu proffesiwn perthnasol.
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (CDP) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.