Skip page header and navigation

Dyfarniad Lefel 3 mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig

  • Face-to-Face
7 Awr

Mae’r cwrs hwn yn cynnwys rôl a chyfrifoldebau’r swyddog cymorth cyntaf pediatrig a rhoi cymorth cyntaf i faban neu blentyn sy’n anymatebol ac yn anadlu’n normal. Mae’r cymhwyster hefyd yn cwmpasu sut i roi cymorth cyntaf i faban neu blentyn sy’n tagu neu sy’n dioddef o sioc hypofolemig a sut i drin mân anafiadau.

Manylion y cwrs

Hyd y cwrs:
7 Awr

£82

Disgrifiad o'r Rhaglen

Mae’r pynciau’n cynnwys:
• Rolau a chyfrifoldebau’r swyddog cymorth cyntaf pediatrig
• Asesu sefyllfa argyfwng yn ddiogel
• Adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) a diffibriliwr allanol awtomatig (AED)
• Rhoi cymorth cyntaf i faban neu blentyn sy’n tagu
• Rhoi anafedig yn yr ystum adfer
• Ymdrin â sioc, gwaedu, brathiadau, pigiadau a mân anafiadau

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu at unigolion sy’n dymuno ennill y wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i’w galluogi i ddarparu cymorth cyntaf pediatrig brys effeithiol. Fe’i bwriedir ar gyfer dysgwyr megis rhieni a pherthnasau, staff lleoliad cyn-ysgol neu feithrinfa, gwirfoddolwyr grŵpiau plant bach, gwarchodwyr plant a nanis, au pairs a rhieni maeth, neu unrhyw un sy’n gorfod darparu cymorth cyntaf fel rhan o’u rôl mewn lleoliad gofal plant neu amgylchedd domestig.

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, efallai y bydd dysgwyr am barhau â’u datblygiad trwy ymgymryd ag un o’r cymwysterau canlynol:
• Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Cymorth Cyntaf Pediatrig (RQF)
• Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Cymorth Cyntaf Brys yn y Gwaith (RQF)
• Dyfarniad Lefel 3 Highfield mewn Cymorth Cyntaf yn y Gwaith (RQF)