Skip page header and navigation

gofal24

gofal24

Sgiliau hanfodol ar gyfer iechyd meddwl, cymorth cyntaf, a rhoi gofal

care24 logo

Beth yw gofal24?

Mae rhaglen Gofal24 Coleg Sir Gâr yn cefnogi unigolion sydd yn gweithio neu sydd ar fin gweithio yn sector gofal Sir Gaerfyrddin. Mae’r sector hwn yn cynnwys gofal plant, gofal yn y gymuned, cefnogaeth breswyl, a mwy.

Mae Gofal24 yn gwella sgiliau a gwybodaeth ar draws y sir, gan ddechrau gyda rhaglen Datrysiadau Gofal Sir Gaerfyrddin. Mae ein hyfforddiant yn symud ymlaen i gyrsiau arbenigol wedi’u teilwra i anghenion cyflogwyr a llwybrau datblygu ar gyfer y rheiny sy’n newydd i’r maes gofal neu sydd eisoes ynddo. 

Rydyn ni’n dathlu a hyrwyddo’r sector gofal trwy ymgysylltu â’r gymuned leol a chyflogwyr i amlygu cyfleoedd gyrfaol mewn iechyd a gofal cymdeithasol. P’un a ydych yn newydd i’r diwydiant neu mae gennych flynyddoedd o brofiad, gall Gofal24 eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a darparu gofal o ansawdd uchel.

Gofalwr, yn gwisgo ffedog feddygol las, yn rhoi rhwymyn ar bigwrn claf

Testimonial

"Mae'r cynllun cychwynnol yn cynnwys pum elfen hyorddiant hanfodol sy'n hollbwysig i weithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Yn ogystal, nodwyd bod hyorddi a mentora yn fodd i wella a sicrhau y darperir gwasanaethau o ansawdd uchel yn Sir Gaerfyrddin."
Karen Samuel

Datrysiadau Gofal Sir Gaerfyrddin

Tiwtor gwrywaidd gofal24 yn dysgu dosbarth cymorth cyntaf yn gwisgo crys polo du gofal24
Dysgwyr gofal24 yn ymarfer technegau cymorth cyntaf ar ei gilydd

Mae rhaglen hyorddi Datrysiadau Gofal Sir Gaerfyrddin Care 24 yn darparu sylfaen gref o wybodaeth sydd ei hangen i ddechrau gyrfa mewn gofal, neu i ddatblygu’r sgiliau sydd gennych eisoes. Mae’r rhaglen safon aur cymwysterau a hyorddiant gofal yn Sir Gaerfyrddin, yn cynnig cyfleoedd datblygu a hyorddiant, a ddarperir gan dîm o arbenigwyr cyfeillgar. Drwy’r rhaglen hon, gallwch ddisgwyl dysgu gwybodaeth sylfaenol, sgiliau technegol, a sgiliau lles a sgiliau meddal i’ch helpu i ddatblygu eich gyrfa mewn gofal.

Rhaglen Hyfforddi 5-Diwrnod yn y Gymuned

Dros gyfnod o bum niwrnod, bydd hyorddwyr arbenigol yn mynd â chi drwy bum cymhwyster gwahanol sy’n ystyried agweddau amrywiol ar ofal gan gynnwys cymorth cyntaf brys, iechyd meddwl yn y gweithle a rheoli gwrthdaro.

Mae Datrysiadau Gofal Sir Gaerfyrddin yn rhaglen hyorddi yn y gymuned sy’n cynnig cymaint o hyblygrwydd â phosibl mewn amseroedd a lleoliadau. Mae ocws cymunedol y rhaglen hyorddi yn sicrhau bod cyfleoedd i ddod o hyd i amser a lleoliad sy’n gyfleus i chi.

Mae’r hyorddiant yn addas ar gyfer gofalwyr ifanc, pobl sy’n chwilio am waith ym maes gofal oedolion neu ofal plant, a’r rhai sydd eisoes yn gweithio yn y sector gofal sydd am ddatblygu eu sgiliau – naill ai i fodloni gofynion eu rôl neu fel rhan o’u DPP.

Bydd cwblhau’r rhaglen hyorddi hon yn agor cyfleoedd ar gyfer datblygiad a hyorddiant pellach, y gall Care 24 eich cefnogi gyda nhw. Gall y rhain gynnwys prentisiaethau, astudiaethau coleg, hyorddiant rheoli ac arweinyddiaeth, cymwysterau TG a digidol, a mwy.