
Dyfarniad Highfield Lefel 3 mewn Deall Iechyd Meddwl yn y Gweithle i Reolwyr (RQF)
- Face-to-Face
Mae mwy a mwy o fusnesau’n cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl yn eu gweithle, a’r hyn y gellir ei wneud i gefnogi cydweithwyr yn effeithiol.
Manylion y cwrs
£150
Disgrifiad o'r Rhaglen
Cwmpesir gwahanol bynciau gan gynnwys:
- Egwyddorion iechyd meddwl
- Adnabod salwch meddwl yn yr hunan ac yn eraill
- Cefnogi lles meddyliol yn y gweithle
- Deall sut i gymryd rhan mewn sgyrsiau am iechyd meddwl yn y gweithle
- Sut i gefnogi gweithwyr cyflogedig mewn perthynas â’u hiechyd meddwl
- Ffyrdd i reoli eich lles eich hun
Cynlluniwyd y Dyfarniad Lefel 3 mewn Deall Iechyd Meddwl yn y Gweithle i Reolwyr (RQF) i gefnogi rôl yn y gweithle a rhoi gwybodaeth i ddysgwyr am ddeall iechyd meddwl yn y gweithle, sut y gall salwch meddwl effeithio ar weithwyr a sut y gall rheolwyr gefnogi gweithwyr.
Yn addas ar gyfer y rheiny sydd eisoes mewn cyflogaeth neu sy’n paratoi i gamu i fyd gwaith, cymhwyster gwybodaeth yn unig yw hwn sy’n cwmpasu’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth greiddiol bydd eu hangen ar reolwyr ar gyfer cefnogi cydweithwyr a hybu diwylliant o les.
Ar gwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, efallai y bydd dysgwyr yn dymuno parhau â’u datblygiad trwy ymgymryd â chwrs arall o’n hystod eang o gyrsiau.