Skip page header and navigation

IOSH Gweithio'n Ddiogel

  • Ar-Lein
1 Diwrnod

Mae Gweithio’n Ddiogel yn mynd i’r afael â hyfforddiant diogelwch ac iechyd mewn dull hollol wahanol. Mae’n rhaglen effaith uchel a gynlluniwyd i fod yn bleserus ac i gael unigolion i gymryd rhan gyflawn. Mae’r cynnwys wedi’i gynllunio ar sail yr hyn y mae angen i bobl ei wybod yn ymarferol, ac nid ar iaith gyfreithiol, annymunol. Mae Gweithio’n Ddiogel ar gyfer pobl ar unrhyw lefel, mewn unrhyw sector ar draws y byd, sydd angen sylfaen mewn hanfodion diogelwch ac iechyd. Mae’n rhoi dealltwriaeth i bawb yn y gwaith ynghylch pam mae’n rhaid iddynt weithio’n ddiogel.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Pellter
Hyd y cwrs:
1 Diwrnod

£110

Achrededig:
IOSH logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.

Ymdrinnir ag amrywiol bynciau yn y cwrs hwn gan gynnwys amlinelliad o ddiogelwch ac iechyd galwedigaethol, diffinio peryglon a risgiau, nodi peryglon cyffredin a gwella perfformiad o ran diogelwch.

O’r cwrs hwn, gall busnesau gael tawelwch meddwl o hyfforddiant sydd wedi’i gynllunio ac sydd â sicrwydd ansawdd. Hyfforddiant ardystiedig ar gyfer ei staff a gydnabyddir yn fyd-eang, sy’n cael ei barchu ac sy’n tarfu cyn lleied â phosibl ar ddiwrnodau gwaith a shifftiau, a dysgu effeithlon ac effeithiol. Yn ogystal, mae ffeithiau cofiadwy a phryfoclyd ac astudiaethau achos o bob rhan o’r byd er mwyn helpu i atgyfnerthu’r dysgu drwy gydol y cwrs.

Mae Gweithio’n Ddiogel ar gyfer unigolion ar unrhyw lefel, mewn amrywiol sectorau ledled y byd. Mae wedi’i gynllunio ar gyfer pobl sydd angen sylfaen mewn hanfodion diogelwch ac iechyd. Mae’n rhoi dealltwriaeth i bawb yn y gwaith o pam mae’n rhaid iddynt weithio’n ddiogel wrth gyflwyno’r cwrs mewn ffordd bleserus.

Ar gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, rhoddir tystysgrif IOSH Gweithio’n Ddiogel i ddysgwyr. Gall dysgwyr ddisgwyl canlyniadau fel cynhyrchiant uwch o ganlyniad i golli llai o oriau oherwydd salwch a damweiniau. Gwell diwylliant o ymwybyddiaeth diogelwch ar draws y cwmni a gwerthfawrogi mesurau diogelwch. Staff sy’n cymryd rhan yn ymarferol i wella’r gweithle ac enw da gwell o fewn y gadwyn gyflenwi.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.