Skip page header and navigation

Lefel 2 Cyfryngau Rhyngweithiol Creadigol

  • Campws Aberystwyth
1 Flwyddyn

Os ydych chi’n hoffi creu cynnwys creadigol fel defnydd ar gyfer mynegiant artistig a chyfathrebu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd, yna mae’r cwrs hwn yn gam ar yr ysgol i ddefnyddio cyfryngau digidol, ffilm a fideo ac animeiddio.

Mae’r cwrs cyfryngau creadigol lefel dau hwn wedi’i gynllunio i roi ystod o sgiliau creadigol, ymarferol ac academaidd lefel uchel i chi gan ddefnyddio meddalwedd o safon y diwydiant.

Bydd y cwrs yn eich hyfforddi yn y math o ddawn greadigol a fydd yn mynd â chi ar eich camau cyntaf tuag at gyflogaeth o fewn y sector cyfrifiadura creadigol neu ar yr ysgol addysgol i gymhwyster lefel tri sy’n ofynnol i gael mynediad ar lefel prifysgol.

Manylion y cwrs

Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Gan ddefnyddio caledwedd a meddalwedd safon y diwydiant byddwch yn dysgu’r technegau diweddaraf mewn pynciau creadigol i ymestyn eich sgiliau ac i roi pwyslais galwedigaethol. Yn ogystal, cewch y cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau sgiliau, ymweliadau neu i wrando ar siaradwyr ac arbenigwyr ymweliadol yn y coleg. Yn ogystal, cewch y cyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg a diwylliannol.

Cewch y cyfle i ddatblygu eich sgiliau llythrenedd, rhifedd a’ch galluoedd digidol.  Darperir cyfleoedd yn ogystal i wella graddau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg. Mae enghreifftiau o unedau yn y prif gymhwyster yn cynnwys: 

Cyflwyno Cynhyrchion y Cyfryngau a Chynulleidfaoedd

Nod yr uned hon yw caniatáu i ddysgwyr ddeall sefydliadau’r cyfryngau, sut maen nhw’n gweithio a’r cynhyrchion maen nhw’n eu cynhyrchu. Bydd dysgwyr yn deall prosesau cynhyrchu, cynulleidfaoedd targed, dosbarthu a marchnata drwy ddadansoddi cynhyrchion y cyfryngau.

Ffotograffiaeth ar gyfer cynhyrchion y Cyfryngau

Trwy gwblhau’r uned hon bydd dysgwyr yn deall ffotograffau proffesiynol a ddefnyddir mewn cynhyrchion cyfryngau. Bydd dysgwyr yn deall sut i gynllunio i gymryd ffotograffau ar gyfer cynnyrch cyfryngau penodol, gan gynnwys sut i gymryd a golygu ystod o ffotograffau. Yn ogystal, bydd dysgwyr yn deall sut i adolygu’r ffotograffau terfynol a gynhyrchir.

Cynhyrchion cyfryngau Ffilm a Theledu

Trwy gwblhau’r uned hon, bydd dysgwyr yn deall cynhyrchion cyfryngau ffilm a theledu presennol. Bydd dysgwyr yn gallu cynllunio ar gyfer cynhyrchu darn dau funud, ar gyfer cynnyrch cyfryngau ffilm neu deledu gwreiddiol.  Byddant yn ennill peth sgiliau ymarferol trwy gynhyrchu a golygu eu darn eu hunain.    

Bydd pob dysgwr yn dilyn Llwybr Sgiliau lle byddant yn datblygu eu sgiliau llythrennedd a rhifedd ar gyfer cyflogaeth. Bydd myfyrwyr nad ydynt hyd yma wedi cael y graddau TGAU angenrheidiol ar C neu uwch yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Gymwysterau Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.

Mae’r sgiliau a gaiff eu dysgu ar y cwrs hwn yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu gyrfa ar ochr greadigol cyfryngau neu dechnoleg gwybodaeth newydd, neu yrfa tuag at reoli’r broses gyfan. Gallai dilyniant dysgwyr gynnwys astudio pellach ar gwrs lefel tri cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol neu gwrs TGCh, prentisiaeth neu gyflogaeth.  Bydd lefel y dilyniant yn dibynnu ar y radd gyffredinol a gyflawnir yn y cymhwyster.

Asesir yr holl unedau ar y cwrs trwy aseiniadau gwaith cwrs sy’n cael eu hasesu yn y ganolfan a’u cymedroli’n allanol gan OCR. Does dim arholiadau.

4 TGAU graddau A* - D gyda 2 radd C, un naill ai’n Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf) neu fathemateg. Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.