Skip page header and navigation

Diwydiannau Creadigol Lefel 1

  • Campws Y Graig
1 flwyddyn

Bydd y cwrs lefel un hwn yn y diwydiannau creadigol yn rhoi cam i fyny’r ysgol i chi i fyd cyffrous o greadigrwydd pur ac archwilio.

Y corff dyfarnu yw Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) a chynlluniwyd y cwrs hwn yn ddiweddar i roi’r holl sgiliau ac offer i chi sy’n angenrheidiol ar gyfer gweithio yn y Diwydiannau creadigol, yn amrywio o’r celfyddydau perfformio a chynhyrchu, technoleg cerdd a’r cyfryngau creadigol. Bydd y sgiliau byddwch yn eu datblygu yn amrywio o olygu, darlledu byw, animeiddio, cynhyrchu ffilm, Special FX yn ogystal â sgiliau actio a pherfformio, sgiliau dylunio a chynhyrchu cerddoriaeth.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gennym switiau cyfrifiadurol â’r holl gyfarpar angenrheidiol, lle byddwch yn dod o hyd i’r meddalwedd diweddaraf a thechnoleg o’r radd flaenaf.  Mae ein hystafelloedd recordio a’n stiwdio ffilm ar y safle yn cynnwys cyfarpar proffesiynol safon y diwydiant, y gallwch chi fenthyg, yn rhad ac am ddim. Hefyd cewch fynediad i’r swît Adobe gartref ac yn y coleg; Stiwdio Toon Boom a Meddalwedd Animeiddio Stiwdio Dragon. Mae ein switiau cyfrifiaduron Apple Macintosh yn rhedeg rhaglenni Adobe Premiere, Prelude, Photoshop, Illustrator, After Effects, Audition, Encore, InDesign, Dreamweaver, Logic X.

Mae gan ein Hadran Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol gysylltiadau cryf ar draws y diwydiant, felly byddwch chi’n elwa o arbenigwyr yn y diwydiant a chyfleoedd rhwydweithio. Yn ogystal, mae gennym theatr newydd sbon, o’r radd flaenaf ar y safle, lle byddwch yn gallu datblygu sgiliau o fewn y celfyddydau perfformio a chynhyrchu.

Mae’r cwrs yn dechrau gyda dau fis o gyflwyno sgiliau lle byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r cyfarpar a’r meddalwedd, ac yna byddwch yn dechrau gwneud cynnwys yn syth sy’n unol â’ch diddordebau. 

Mae tri phrosiect yn rhedeg drwy gydol y flwyddyn a byddwch yn dewis eich cynnwys o amrywiaeth o sectorau o fewn celf, dylunio a’r cyfryngau. 

Yna rydych chi’n gorffen y flwyddyn gyda Phrosiect Mawr Terfynol lle rydych chi’n dewis maes diddordeb ac yn creu eich prosiect eich hun.

Disgwylir i chi hefyd fynychu gwersi mathemateg a Saesneg er mwyn datblygu eich sgiliau yn y meysydd hyn - mae’r ddau yn elfen hollbwysig o’r cwrs. 

Ar gwblhau’r cwrs Lefel 1, mae gennych amrywiaeth o opsiynau. Gallech ddewis mynd i fyd gwaith, gwneud cais am brentisiaeth, neu cewch y cyfle i fynd ymlaen i gwrs Lefel 2, o fewn y celfyddydau perfformio, technoleg cerdd neu’r cyfryngau creadigol gyda phas proffil teilyngdod.

Asesir yr holl unedau yn fewnol. Rhaid i chi basio’r holl unedau, a daw eich gradd derfynol o’ch Prosiect Mawr Terfynol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd.

Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith cyfryngau neu waith celf a dylunio i’w cyfweliad, lle caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu.     Bydd angen i ymgeiswyr feddu ar o leiaf tri TGAU graddau A* - G sy’n gorfod cynnwys Saesneg/Cymraeg iaith gyntaf a mathemateg. 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd disgwyl i chi eich hun ddarparu set o glustffonau, cerdyn SD a chof bach ar gost amcangyfrifedig o £60.00 ar y mwyaf.

Gellir trafod hyn yn y cyfweliad.