
Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol
- Campws Aberystwyth
Os ydych chi’n hoffi creu cynnwys creadigol fel defnydd ar gyfer mynegiant artistig a chyfathrebu i ymgysylltu â chynulleidfaoedd, yna mae’r cwrs hwn yn gam ar yr ysgol i ddefnyddio cyfryngau digidol, ffilm a fideo ac animeiddio.
Mae’r cwrs cyfryngau creadigol lefel tri hwn wedi’i gynllunio i roi ystod o sgiliau creadigol, ymarferol ac academaidd lefel uchel i chi gan ddefnyddio meddalwedd o safon y diwydiant a gellir ei ddefnyddio i symud ymlaen i’r brifysgol.
Gyda ffocws ymarferol ac mewn adran sydd ag adnoddau gwych, mae myfyrwyr yn astudio ac yn gwneud ffilmiau (fideos ffuglen, dogfennol a cherddoriaeth), animeiddiadau, graffeg, ymgyrchoedd hysbysebu, a phortffolios ffotograffiaeth. Caiff y cwrs hwn gan y Corff Dyfarnu, Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) ei danategu gan ddealltwriaeth o’r diwydiant cyfryngau, dadansoddiad manwl o gynnwys y cyfryngau, yn ogystal ag ymateb i friffiau proffesiynol.
Mae gennym stiwdio bwrpasol ar gyfer ffilmio a ffotograffiaeth, camerâu proffesiynol manylder uwch, trybeddau, traciau, microffonau, genweiriau sain a goleuadau y gall myfyrwyr, ar ôl iddynt gael eu hyfforddi, eu benthyg i wneud ffilmiau. Mae gennym hefyd dair swît olygu bwrpasol gydag Apple Macs (un i bob myfyriwr ar y cwrs) a’r meddalwedd proffesiynol diweddaraf, gan gynnwys Adobe Creative Suite (Photoshop, Premiere Pro ac ati) ar gyfer golygu a graffeg.
Mae ffocws go iawn ar ddarparu disgwyliadau a safonau proffesiynol, gan gynnwys prosiectau terfynol uchelgeisiol (ym mha bynnag gyfrwng mae’r myfyriwr yn ei ddewis) ar ddiwedd pob blwyddyn. Mae profiad gwaith realistig trwy friffiau cleientiaid proffesiynol, gwaith prosiect ar y cyd â chyflogwyr lleol a gweithgarwch traws gwricwlaidd.
Mae gwaith y myfyrwyr o safon uchel iawn ac rydym wedi cael nifer o lwyddiannau mewn gwyliau ffilm megis Zoom a Ffresh.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae yna ffocws cryf ar ddarparu profiad gwaith realistig trwy friffiau cleientiaid proffesiynol, gwaith prosiect ar y cyd â chyflogwyr lleol a gweithgarwch traws gwricwlaidd. Mae gennym gamerâu proffesiynol Manylder Uwch, trybeddau, traciau, microffonau, genweiriau sain a goleuadau y gall myfyrwyr eu llogi i wneud ffilmiau; a thair swît olygu bwrpasol gydag Apple Macs (un i bob myfyriwr ar y cwrs) a’r meddalwedd proffesiynol diweddaraf, gan gynnwys Maya ar gyfer gwaith 3D a’r Adobe Creative Suite (Photoshop, Premiere Pro, ac ati) ar gyfer golygu a graffeg.
Mae gwaith y myfyrwyr o safon uchel iawn ac rydym wedi cael nifer o lwyddiannau mewn gwyliau ffilm megis Zoom a Ffresh.
Ar ôl cwblhau’r cwrs, mae ein myfyrwyr fel arfer yn symud ymlaen i gyrsiau prifysgol yn y cyfryngau, ffilm, animeiddio a phynciau cysylltiedig, ond hefyd mae rhai yn mynd ymlaen i gyrsiau dyniaethau megis seicoleg, cymdeithaseg a gwleidyddiaeth ryngwladol.
Mae ein myfyrwyr wedi cael eu derbyn i rai o’r prifysgolion mwyaf nodedig yn y DU ar gyfer astudiaethau’r cyfryngau megis Goldsmith’s, Salford (Media City) a Phrifysgol Westminster. Wedi’u hysbrydoli gan agweddau ymarferol y cwrs a’u harwain gan gefnogaeth alwedigaethol ein tîm addysgu yn y diwydiant, mae ein myfyrwyr hefyd yn symud yn uniongyrchol i mewn i’r diwydiant, yn ennill gwaith llawrydd tra’n dal i fod yn y coleg, yn sefydlu eu cwmnïau eu hunain neu yn gwneud cais am rolau iau/cynorthwyol yn y diwydiant.
Mae’r asesu wedi’i seilio ar brosiectau ar hyd y ddwy flynedd o astudio (heb unrhyw arholiadau). Mae myfyrwyr yn cynhyrchu portffolios sy’n cynnwys ymchwil a datblygu, deunydd cynllunio a chanlyniadau creadigol terfynol ar gyfer pob uned.
Pum TGAU graddau A*-C, sy’n cynnwys naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf) a mathemateg. Neu fod wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel dau yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch ynghyd â chyfweliad llwyddiannus.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun, a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol