
Dyfarniad a Diploma Lefel 2 mewn Celfyddydau Perfformio a Chynhyrchu
- Campws Y Graig
Os ydych yn frwdfrydig am gerddoriaeth dda, yna archwiliwch a datblygwch eich holl sgiliau sy’n gysylltiedig â chreu, cynhyrchu a pherfformio gyda’r tîm perfformio a thechnoleg cerdd.
Bydd y cwrs hwn gan gorff dyfarnu Prifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yn darparu’r wybodaeth bynciol eang a helaeth i chi a fydd yn cwmpasu ystod eang o dechnegau cyfansoddi a chynhyrchu gan ddefnyddio meddalwedd o safon y diwydiant ac amrywiaeth o offerynnau a phrosesyddion caledwedd.
Bydd y profiadau ymarferol hyn yn caniatáu i chi adeiladu portffolio sy’n hybu eich hun ar gyfer addysg uwch, prentisiaethau neu gyflogaeth. Byddwch yn ennill sgiliau ymarferol a fydd yn meithrin eich hyder yn eich archwiliad creadigol, gan roi’r sgiliau angenrheidiol i chi gael profiadau ymarferol o’r radd flaenaf.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs perfformio a chynhyrchu cerdd hwn yn gyflwyniad â ffocws ar yrfa i’r diwydiant cerddoriaeth modern ar un o ddwy lefel. Rydym yn darparu cyfleoedd i archwilio a datblygu sgiliau trwy brosiectau ymarferol sydd wedi’u cynllunio i adlewyrchu arferion cyfredol ac i roi profiad o sefyllfaoedd y byd go iawn.
Fel myfyriwr, bydd gennych fynediad i’n switiau cynhyrchu ag adnoddau da; mae’r rhain yn cynnwys stiwdio recordio o ansawdd uchel gyda lleoedd recordio pwrpasol, swît gynhyrchu cerddoriaeth a’i dyluniad yn ffocysu ar sain, ystafell ffrydio darlledu byw, a stiwdio gyfryngau gydag oriel ategol. Mae gan bob ystafell ddosbarth raglenni golygu a recordio o safon y diwydiant yn ogystal â Mac ar gyfer pob myfyriwr. Trwy’r flwyddyn cynhelir gweithdai amrywiol i ddatblygu sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y gwahanol gyfleusterau sydd ar gael.
Fel rhan o’n rhaglen astudio byddwch yn gallu dewis ac archwilio rolau swyddi mewn prosiectau penodol sy’n cynnwys y canlynol: Cerddor (Sgiliau Perfformio ac Ymarfer)
- Peiriannydd Sain Byw
- Rheolwr Digwyddiadau
- Recordydd Sain (Stiwdio Recordio a Byw)
- Peiriannydd Cymysgu (Stiwdio Recordio)
- Cynhyrchydd (Dilyniannu, Samplu, Cymysgu a Recordio)
- Dylunydd Sain (Sain i Ddelwedd, Synthesis)
- Cyfansoddwr (Sain i Ddelwedd, Cyfansoddi a threfnu)
- Peiriannydd Ffrydio
Mewn maes pwnc sy’n cwmpasu ystod anhygoel o bynciau a disgyblaethau, mae cyflogadwyedd yn ffactor allweddol sydd wedi’i integreiddio i’r cwrs. Rydym yn ymroddedig i roi’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol i chi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch neu gyflogaeth.
Mae’r twf mewn technoleg ddigidol wedi arwain at gynnydd mewn swyddi ac mae’n amser hynod gyffrous i’r Diwydiannau Creadigol yng Nghymru. Bydd y cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau trosglwyddadwy i chi a allai eich arwain at hyfforddiant mewn amrywiaeth eang o alwedigaethau megis cerddor, peiriannydd sain, technegydd sain, therapydd cerdd neu athro.
Gall dysgwyr sydd â graddau addas ar lefel dau symud ymlaen i’r cyrsiau lefel tri mewn technoleg cerdd. Gellir trafod llwybrau dilyniant hefyd yn y cyfweliad.
Asesir unedau yn fewnol. Hefyd byddwch yn creu prosiect mawr terfynol.
Bydd angen i bob ymgeisydd fynychu gweithdy clyweliad a chyfweliad ac arddangos lefel gallu. Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd feddu ar o leiaf pedair gradd A* - D gyda dwy radd C, un yn fathemateg neu Saesneg/Cymraeg (iaith gyntaf). Neu wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel un yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.