
Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol Lefel 2
- Campws Y Graig
Mae cyfryngau creadigol yn bwnc tra chreadigol a thechnegol sy’n caniatáu i chi ehangu eich creadigrwydd a chreu cynnwys hynod ddiddorol a chreadigol.
Caiff y cwrs hwn ei ddyfarnu gan Brifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) ac mae’n ddelfrydol os ydych eisiau mynd â’ch profiad o gynhyrchu yn y cyfryngau creadigol ymhellach ac adeiladu portffolio sy’n adlewyrchu eich cyflawniadau, sgiliau, profiadau a’ch priodoleddau er mwyn arddangos eich gwaith ymarferol gorau.
Byddwch yn ennill sgiliau ymarferol mewn cynhyrchu a thechnoleg yn y cyfryngau digidol yn ogystal â’r wybodaeth a’r ddealltwriaeth sydd eu hangen i symud ymlaen i astudiaeth bellach cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol ar lefel tri a hyfforddiant mewn ystod o bynciau sy’n ymwneud â’r cyfryngau, gan gynnwys dylunio gemau, ffilm, y teledu, radio, peirianneg sain ac eraill. Mae’r cwrs hwn yn caniatáu i’ch brwdfrydedd a’ch chwilfrydedd yn y cyfryngau, yn aml mewn disgyblaeth benodol, i archwilio ac ymestyn eich diddordeb o fewn profiad dysgu ymdrwythol, llawn amser gan ddefnyddio’r technegau digidol diweddaraf.
Manylion y cwrs
- Llawn amser
Beth fyddwch chi'n ei ddysgu
Mae’r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arnoch er mwyn symud ymlaen i lefel tri cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol ac yn y pen draw i gyflogaeth. Cewch y cyfle i ddatblygu’r sgiliau hyn trwy gyfrannu at syniadau newydd ac arbrofi yn ogystal â chael eich cyflwyno i ystod o weithgareddau a fydd yn eich ysbrydoli a’ch arloesi i ddatblygu a chreu prosiect terfynol cyfryngau digidol.
Mae gennym switiau cyfrifiadurol â’r holl gyfarpar angenrheidiol, lle byddwch yn dod o hyd i’r meddalwedd diweddaraf a thechnoleg fodern, tra bod ein hystafelloedd recordio a’n stiwdio ffilm ar y safle yn cynnwys camerâu DSLR proffesiynol o safon y diwydiant.
Mae gan ein hadran cyfryngau creadigol a digidol gysylltiadau cryf ar draws y diwydiant, felly byddwch chi’n elwa o arbenigwyr yn y diwydiant a chyfleoedd rhwydweithio a gallech gael y cyfle i gofrestru ac ennill gwobrau ffilm a theledu cenedlaethol yn ogystal â bod yn rhan o’n ‘Clwb Ffilm’ gwobrwyog.
Nodweddion y Diwydiant:
- Cyfleusterau cynhyrchu rhagorol yn cynnwys stiwdio gynhyrchu’r cyfryngau bwrpasol 1,000 troedfedd sgwâr gyda goleuadau stiwdio/symudol.
- Camerâu fideo DSLR ansawdd HD - cyfarpar sain ansawdd darlledu
- Stiwdio Toon Boom a Meddalwedd Animeiddio Stiwdio Dragon
- Switiau cyfrifiadurol Apple Macintosh sy’n rhedeg Adobe Premiere, Prelude, Photoshop, Illustrator, After Effects, Audition, Encore, InDesign, Dreamweaver, Logic X.
- Staff ac ymarferwyr tra chymwys sydd â phrofiad yn y diwydiant.
- Cysylltiadau cryf â’r diwydiant yn lleol a chenedlaethol
Mae’r cwrs cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol lefel dau yn cynnwys naw uned, sy’n cwmpasu er enghraifft:
- Cyflwyniad i ddulliau a sgiliau’r cyfryngau creadigol
- Archwilio cynhyrchu a thechnoleg sain
- Deall cynulleidfa mewn cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol.
Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys naill ai Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol (Ôl-16) neu Sgiliau Hanfodol ynghyd ag uned iaith Gymraeg a Sgiliau Cyflogadwyedd.
Mewn maes pwnc sy’n cwmpasu ystod anhygoel o bynciau a disgyblaethau, o animeiddio i ffotograffiaeth i gyfarwyddo fideos a chynllunio gemau fideo, bydd wastad dewis gennych o ran gyrfa yn y dyfodol.
Mae hwn yn amser hynod gyffrous i’r diwydiant cyfryngau creadigol yng Nghymru sy’n arwain at gyfleoedd gwaith ar garreg ein drws gydag Yr Egin yng Nghaerfyrddin a stiwdios y BBC yng Nghaerdydd. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch megis y rhaglen cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol lefel dau, ac mae’n darparu sgiliau trosglwyddadwy, a all arwain at hyfforddiant mewn amrywiaeth eang o alwedigaethau.
Asesir unedau yn fewnol. Hefyd byddwch yn creu prosiect mawr terfynol o’ch dewis eich hun.
Mae’r cymhwyster hwn ar gael i’w asesu drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg.
Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith cyfryngau neu gelf a dylunio i’w cyfweliad.
Caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu yn y cyfweliad.
Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y lefel dau gael o leiaf 4 TGAU gradd A* - C gydag un ohonynt naill ai’n fathemateg neu’n Saesneg. Bydd myfyrwyr nad oes ganddynt hyd yn hyn y graddau C neu uwch angenrheidiol yn cael addysgu a chymorth ychwanegol i astudio ar gyfer naill ai TGAU neu Sgiliau Hanfodol yn dibynnu ar raddau TGAU blaenorol.
Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.
Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.