Skip page header and navigation

Cynhyrchu Cynnwys Digidol (E-chwaraeon) - Lefel 3

  • Campws Y Graig
1 Flwyddyn

I’r cwrs UAL Lefel 3 Cynhyrchu Cynnwys Digidol ac e-Chwaraeon yng Ngholeg Sir Gâr mae’r rhaglen arloesol a blaengar hon wedi’i chynllunio ar gyfer unigolion sy’n angerddol ynghylch chwarae gemau ac yn awyddus i ymchwilio i fyd amlochrog e-Chwaraeon a chynhyrchu cynnwys digidol. Wrth i’r diwydiant e-Chwaraeon ehangu’n gyflym yn y DU, mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle heb ei ail i ddatblygu sgiliau ymarferol a thechnegol hefyd sy’n hanfodol ar gyfer ffynnu yn y maes dynamig hwn.

Ymgeiswyr Delfrydol

Rydyn ni’n chwilio am ddysgwyr sy’n:

  • Meddu ar ddiddordeb brwd mewn chwarae gemau a’r diwydiant e-Chwaraeon.
  • Dangos diddordeb ar gyfer agweddau technegol e-Chwaraeon, cynhyrchu, clywedol, gweledol, a chynnwys creadigol.
  • Ysu i ennill sgiliau unigryw wedi’u teilwra i’r diwydiant e-Chwaraeon.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
1 Flwyddyn

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae’r cwrs 2 flynedd yn pwysleisio dysgu ymarferol mewn amgylchedd technegol, gan ganolbwyntio ar y canlynol:

  • Cynhyrchu: Deall a chreu cynnwys e-Chwaraeon o ansawdd uchel.
  • Hyrwyddo: Marchnata a hyrwyddo digwyddiadau a chynnwys e-Chwaraeon.
  • Rheoli: Goruchwylio creu cynnwys yn unigol a sail tîm.
  • Adeiladu Cynnwys: Datblygu cynnwys digidol atyniadol a gwefreiddiol.

Mae’r diwydiant e-Chwaraeon yn un o’r sectorau o fewn diwydiant gemau fideo’r DU sy’n tyfu’n gyflymaf. Bydd y cwrs hwn yn eich trwytho yn amrywiol agweddau’r diwydiannau creadigol sy’n gysylltiedig â chwarae gemau, cynhyrchu a thechnolegau trochol. Byddwch yn dysgu am dirlun y diwydiant, cronfa cefnogwyr, a’r gemau sy’n gyrru’r sector cyffrous hwn.

Bydd cyfranogwyr yn ennill arbenigedd mewn sbectrwm eang o bynciau’n gysylltiedig â’r cyfryngau gan gynnwys, ond nid yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • Rheoli e-Chwaraeon: Trefnu a rheoli timau a digwyddiadau e-Chwaraeon.
  • Dylunio Graffig a Digidol: Creu cynnwys digidol sy’n weledol atyniadol.
  • Ffrydio a Chynhyrchu Byw: Darlledu digwyddiadau e-Chwaraeon byw.
  • Cynhyrchu Clywedol/Gweledol: Cynllunio sain, ffilmio a gwaith camera.
  • Golygu ac Ôl-Gynhyrchu: Mireinio cynnwys i safonau proffesiynol.
  • Technegau Newyddiaduriaeth: Adrodd ar ddigwyddiadau a newyddion e-Chwaraeon.
  • Adeiladu Tîm a Chwrteisi Chwaraeon: Meithrin gwaith tîm a phroffesiynoldeb.
  • Ysgrifennu Sgriptiau: Crefftio naratifau atyniadol ar gyfer cynnwys e-Chwaraeon.
  • Chwarae Gemau’n Broffesiynol a Chyfryngau Cymdeithasol: Gwella sgiliau chwarae gemau a manteisio ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol.
Academi e-Chwaraeon: 

Bydd yr holl ddysgwyr yn ymuno â’n Hacademi e-Chwaraeon, gan ganiatáu cymryd rhan mewn amrywiol gemau e-Chwaraeon a digwyddiadau chwarae gemau cystadleuol. Bydd yr academi hefyd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau niferus, gan feithrin ysbryd cystadleuol a phrofiad ymarferol.

Ar hyn o bryd rydyn ni’n chwarae yn nhwrnameintiau Pencampwriaeth Myfyrwyr E-chwaraeon Prydain gan gystadlu yn: 

  • Valorant
  • Rocket League
  • Overwatch
  • League of Legends
  • FIFA

Bydd yn ofynnol i fyfyrwyr sydd am gael eu recriwtio i dîm e-Chwaraeon y coleg gynnal presenoldeb o 95%+ a chadw’n gyfredol gyda’u gwaith cwrs.

Prosiectau Ar Y Cyd 

Ymgysylltu ag adrannau eraill megis cerddoriaeth, cyfryngau, a chelfyddydau perfformio/cynhyrchu i greu prosiectau rhyngddisgyblaethol, gan wella eich sgiliau creadigol a thechnegol.

Digwyddiadau a Chystadlaethau’r Diwydiant:
  • Cystadlu mewn twrnameintiau e-Chwaraeon.
  • Mynychu digwyddiadau e-Chwaraeon (e.e., eSports Insider).
  • Ymweld â chynadleddau gemau mawr (e.e., UK Games Expo, EGX).
  • Dysgu am faetheg a ffitrwydd e-Chwaraeon er mwyn cynnal perfformiad brig.
  • Dylech fod yn 16 mlwydd oed o leiaf. 
  • O leiaf 4 TGAU gradd C/4 neu uwch, neu Deilyngdod yn Niploma L2 UAL mewn Cynhyrchu a Thechnoleg yn y Cyfryngau Creadigol, neu Ddiploma Estynedig Level 2 BTEC neu gyfwerth
  • Mae TGAU Saesneg Iaith gradd C/4 neu uwch yn hanfodol a TGAU Mathemateg gradd C/4 neu uwch yn ddymunol iawn 

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd angen i chi ddarparu eich deunydd ysgrifennu eich hun a hefyd gallwch fynd i gostau os yw’r adran yn trefnu ymweliadau addysgol.

Bydd disgwyl i chi eich hun ddarparu set o glustffonau, cerdyn SD a chof bach ar gost amcangyfrifedig o £60.00 ar y mwyaf.