Skip page header and navigation

Animeiddio a Chynhyrchu Ffilmiau Lefel 3

  • Campws Y Graig
2 flynedd

Mae animeiddio a chynhyrchu ffilm yn llwybrau gyrfaol tra chyffrous mewn diwydiant creadigol sy’n tyfu’n gyflym.

Cynlluniwyd y cwrs lefel tri hwn a ddyfernir gan Brifysgol y Celfyddydau Llundain (UAL) yn ddiweddar i roi’r holl sgiliau ac offer angenrheidiol i chi i weithio yn y diwydiannau creadigol ym meysydd darlledu byw, animeiddio, cynhyrchu ffilm, Special FX yn ogystal â digwyddiadau byw a chynhyrchu fideo perfformiad.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Llawn amser
Hyd y cwrs:
2 flynedd

Beth fyddwch chi'n ei ddysgu

Mae gennym switiau cyfrifiadurol â’r holl gyfarpar angenrheidiol, lle byddwch yn dod o hyd i’r meddalwedd diweddaraf a thechnoleg o’r radd flaenaf.  Mae ein hystafelloedd recordio a’n stiwdio ffilm ar y safle yn cynnwys cyfarpar proffesiynol safon y diwydiant, y gallwch chi fenthyg, yn rhad ac am ddim. Hefyd cewch fynediad i’r swît Adobe gartref ac yn y coleg; Stiwdio Toon Boom a Meddalwedd Animeiddio Stiwdio Dragon. Mae ein switiau cyfrifiaduron Apple Macintosh yn rhedeg rhaglenni Adobe Premiere, Prelude, Photoshop, Illustrator, After Effects, Audition, Encore, InDesign, Dreamweaver, Logic X.

Mae gan ein Hadran Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol gysylltiadau cryf ar draws y diwydiant, felly byddwch chi’n elwa o arbenigwyr yn y diwydiant a chyfleoedd rhwydweithio.

Mae’r cwrs yn dechrau gyda 2 fis o gyflwyno sgiliau ble byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio’r cyfarpar a’r meddalwedd, ac yna byddwch yn dechrau gwneud cynnwys yn syth sy’n unol â’ch diddordebau. Mae yna 3 phrosiect sy’n rhedeg ar hyd y flwyddyn ac rydych chi’n dewis eich cynnwys - Clywedol/Sain, Gweledol a Rhyngweithiol. Yna rydych chi’n gorffen y flwyddyn gyda Phrosiect Mawr Terfynol 16-wythnos ble rydych chi’n dewis maes diddordeb ac yn creu eich prosiect eich hun.

Mae’r cwrs hwn hefyd yn cynnwys yr Her Sgiliau.

Gallech chi fynd yn syth i ystod gyfan o swyddi fel gweithredydd camera byw, gweithredydd steadicam, cynhyrchydd cynnwys cyfryngau cymdeithasol, golygu a chynhyrchu fideo a sain, darlledu Digwyddiadau Byw a Theledu yn ogystal ag unrhyw beth yn ymwneud â delweddau llonydd neu symudol a sain. Mae hwn yn amser hynod gyffrous i’r diwydiant cyfryngau creadigol yng Nghymru sy’n arwain at gyfleoedd gwaith ar garreg ein drws gydag Yr Egin yng Nghaerfyrddin, Tinopolis yn Llanelli a stiwdios y BBC yng Nghaerdydd. Bydd cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus yn eich galluogi i symud ymlaen i gyrsiau lefel uwch, prentisiaethau neu gyflogaeth.

Asesir unedau’n fewnol - mae eich holl farciau’n dod o’ch gwaith cwrs ar ddiwedd y flwyddyn.

Bydd angen i bob ymgeisydd ddod â phortffolio o waith cyfryngau neu waith celf a dylunio i’w cyfweliad, lle caiff addasrwydd ar gyfer y cwrs hwn ei asesu.     

Bydd angen i ymgeisydd ar gyfer y lefel tri feddu ar o leiaf pump TGAU graddau A*-C, gyda mathemateg a naill ai Saesneg iaith neu Gymraeg (iaith gyntaf).   Neu fod wedi cwblhau cymhwyster galwedigaethol lefel dau yn llwyddiannus mewn pwnc perthnasol gyda theilyngdod neu uwch.

Mae’n ofynnol i bob dysgwr dalu ffi gweinyddu o £25 cyn cofrestru.

Bydd disgwyl i chi eich hun ddarparu eich set o glustffonau, cerdyn SD a chof bach ar gost amcangyfrifedig o £60.00 ar y mwyaf.