Skip page header and navigation

Introduction

dwy ferch yn sefyll y tu ôl i reiliau troellog gwyrdd

Mae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion dîm pwrpasol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau ac anghenion meddygol.

Mae staff Cymorth Dysgu ar gael ar bob campws i gefnogi dysgwyr gyda’u hastudiaethau. Rydyn ni’n croesawu ac yn dathlu niwroamrywiaeth ac, fel coleg, rydyn ni’n croesawu dysgwyr a ffyrdd amrywiol o ddysgu i’n hamgylchedd dysgu cynhwysol. Mae’r tîm Cymorth Dysgu yn gweithio’n agos gyda’r holl staff i sicrhau bod addysgu a dysgu yn hygyrch i ddysgwyr. Mae’r holl gymorth yn anelu at feithrin annibyniaeth dysgwyr yn amgylchedd y coleg a thu hwnt.

ADDYSGU A DYSGU CYNHWYSOL

Rydyn ni’n dathlu diwylliant lle rydych yn teimlo’n gynwysedig. Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr pwnc fydd yn rhoi eich taith yn y coleg wrth raidd y broses, gan sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad i gyfleoedd addysgu a dysgu.

TIWTORIALAU PERSONOL

Byddwch yn cael cyfleoedd i drafod eich cynnydd, uchelgeisiau a thargedau gyda’ch tiwtor personol ar sail un-i-un, ynghyd ag unrhyw faterion eraill yr hoffech chi eu trafod.

HOLIADUR CYMORTH DYSGU

Ar ddechrau eich cwrs, byddwch chi’n cael cyfle i gwblhau holiadur fel ein bod yn gallu dod i wybod am eich anghenion dysgu a’r dewisiadau sydd well gennych. Caiff y wybodaeth hon ei rhannu gyda’ch darlithwyr pwnc fel eu bod yn gallu bodloni eich anghenion a gallwch chi gael eich addysgu mewn dull cynhwysol.

TECHNOLEG GYNORTHWYOL

Mae technoleg gynorthwyol ar gael i gefnogi eich annibyniaeth. Mae hon ar gael ar bob un o gyfrifiaduron y coleg ac mae’n cynnwys meddalwedd darllen a mapio meddwl. Yn ogystal, mae gan holl Chromebooks y coleg y cyfleuster i ddefnyddio meddalwedd darllen a theipio llais. Gallwn roi cyngor i chi a’ch dysgu chi sut i ddefnyddio technoleg gynorthwyol.

Os ydych chi angen cymorth ychwanegol gyda meddalwedd cynorthwyol, gallwch chi archebu cyfres fer o sesiynau trwy gysylltu â’r Cydlynydd Cymorth Dysgu ar gyfer eich campws.

TREFNIADAU MYNEDIAD

Gall pob dysgwr gael mynediad i addasiadau arholiad megis amser ych anegol, darllenydd, defnydd o gyfrifiadur a mwy os oes tystiolaeth o angen. Gallwch chi roi gwybod i ni eich bod angen addasiadau arholiad yn ystod yr holiadur cymorth dysgu neu gall eich tiwtor eich atgyfeirio i gael asesiad.

CEFNOGAETH LLES

Gall pob dysgwr gael mynediad i gefnogaeth lles drwy ein tîm o fentoriaid sydd wedi’u lleoli ar draws yr holl gampysau. Gwneir asesiad byr fydd yn pennu lefel y gefnogaeth ar gyfer pob unigolyn. Gallai hyn fod yn sesiwn wyneb yn wyneb wythnosol, sesiwn un-i-un, cyfarfod ar-lein, gweithgaredd grŵp, rhyw adnodd hunangymorth ar-lein, cyswllt rheolaidd drwy neges destun, neu hyd yn oed tro o gwmpas y campws i gael sgwrs gyflym!

Hefyd mae gennym ni dîm o gynghorwyr cymwysedig sy’n gallu cynnig apwyntiadau cyfrinachol os oes angen cefnogaeth ddwysach. Mae wyddogion Lles ar gael i gefnogi’r holl ddysgwyr gydag amrywiaeth o bynciau gan gynnwys cyllid myfyrwyr, cymryd rhan yng ngweithgareddau undeb y myfyrwyr, llais y dysgwr, a phopeth arall. Mae cefnogaeth ychwanegol yn cynnwys Olrhain a Monitro lle gall tîm neilltuedig helpu cadw dysgwyr ar y trywydd iawn gyda llwyth gwaith, a phwyntiau cyswllt dynodedig ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal, Rhai sy’n Gadael Gofal, Gofalwyr a Gofalwyr Ifanc. Mae’r Tîm Lles yn cefnogi dros 1000 o fyfyrwyr bob blwyddyn, mae croeso i chi gysylltu i wybod sut gallwn ni eich helpu chi.

CANOLFAN ADNODDAU’R LLYFRGELL (LRC)

Cynigir sesiynau cynefino, sesiynau un-i-un a gweithdai yn y dosbarth i’r holl ddysgwyr, beth bynnag yw lefel eich cwrs. Mae yna fynediad ar-lein i e-lyfrau, cyfnodolion a phapurau newydd.

Rydym am i ddysgwyr gael lle gwych i astudio ac i wneud eu gwaith ymchwil a gyda hyn mewn golwg rydym wedi creu gwahanol barthau megis ardaloedd astudio grŵp, desgiau astudio unigol ac ardaloedd astudio tawel.

MANNAU TAWEL

Mae Man Tawel ar gael ar bob campws lle, yn dibynnu ar niferoedd, gallwch chi weithio neu ymlacio mewn amgylchedd tawel yn ystod sesiynau rhydd neu amserau egwyl a chinio. Caiff pob Man Tawel ei oruchwylio gan staff sydd gerllaw.

Mae gennym ddull personoledig o ymdrin â dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn er mwyn i ni allu gwneud yn siŵr bod eich anghenion unigol yn cael eu bodloni. Efallai bydd arnoch angen ychydig o’r cymorth a restrir isod.

CYNLLUN DATBLYGU UNIGOL

Os oes gennych chi Gynllun Datblygu Unigol byddwn yn anelu at:

  • Trafod gyda chi sut hoffech chi gael eich cefnogi yn y coleg a sut i feithrin eich annibyniaeth. Gall hyn fod yn wahanol i’r ffordd rydych yn cael eich cefnogi yn yr ysgol. 
  • Eich cefnogi i ysgrifennu proffil un dudalen i helpu cyfathrebu eich dymuniadau i staff sydd mewn cysylltiad â chi.
  • Sicrhau eich bod yn gallu cael mynediad i gymorth a bod eich cynllun yn cael ei ddiweddaru.
  • Eich cynnwys wrth adolygu eich cymorth a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
DARLITHIO ARBENIGOL

Efallai byddwch chi’n gymwys ar gyfer addysgu 1:1 neu grŵp bach gan ddarlithydd arbenigol. Caiff cymorth ei deilwra i’ch anghenion a dyma rai enghreifftiau o gymorth y gallech fod yn gymwys i’w dderbyn:

  • Mynd i’r afael ag aseiniadau ac ysgrifennu adroddiadau
  • Trefnu, cynllunio a rheoli amser
  • Sgiliau llythrennedd a rhifedd
  • Adolygu ar gyfer arholiadau
  • Defnyddio technoleg gynorthwyol ac arbenigol
  • Gwella sgiliau prawfddarllen
  • Sgiliau cyfathrebu, emosiynol a chymdeithasol
  • Meithrin hyder gyda gwaith academaidd
  • Proffiliau un dudalen
CYMORTH YN Y DOSBARTH

Yn dibynnu ar eich angen dysgu ychwanegol, efallai byddwch chi angen cymorth yn y dosbarth oddi wrth gynorthwyydd cymorth dysgu neu gynorthwyydd cymorth addysgol.

MYNEDIAD I GADEIRIAU OLWYN A HYGYRCHEDD

Mae ein campysau’n hygyrch i gadeiriau olwyn gyda lifftiau. Gellir trafod gofynion unigol gyda’r Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol.

CYMORTH TRWY GYFRWNG Y GYMRAEG

Gellir trafod eich hoff ddewisiadau gyda Chydlynydd Cymorth Dysgu eich campws.

TECHNOLEG NEU ADNODDAU ARBENIGOL

Os ydych chi angen technoleg neu adnoddau arbenigol, megis trosglwyddydd Sgrin Gyffwrdd Roger, cysylltwch â’n Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo) i drafod eich anghenion unigol (o leiaf 20 o ddiwrnodau tymor cyn dechrau eich cwrs, os nad ynghynt).

Pa beth bynnag fo’ch angen dysgu ychwanegol, byddwn ni’n eich cefnogi i feithrin eich sgiliau a’ch annibyniaeth tra eich bod yn y coleg. Ein nod yw eich bod yn dysgu gwneud mwy o bethau i chi’ch hun a gwneud eich penderfyniadau eich hun, fydd yn ategu eich cynnydd yn y coleg a thu hwnt.