Cynnig Darpariaeth Ddysgu Gyffredinol ac Ychwanegol
Rhagarweiniad



Pwrpas y ddogfen hon yw cyflwyno cwmpas y ddarpariaeth ddysgu gyffredinol ac ychwanegol sydd ar gael yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion, i awdurdodau lleol, ysgolion a darpar ddysgwyr, rhieni a gofalwyr. Mae wedi’i chynllunio i gefnogi dealltwriaeth well a rhanedig o ddarpariaeth addysg bellach a hyfforddiant rhwng colegau ac asiantaethau lleol.
Ysbrydoli Dysgwyr, Cyflawni Potensial ac Ennill Rhagoriaeth Drwy Ddiwylliant o Gynwysoldeb
Mae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion dîm ymroddedig o athrawon arbenigol a staff Cymorth Dysgu i gynorthwyo dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau ac anghenion meddygol.
Mae’r coleg yn ymrwymedig i ddarparu ystod lawn o addysg bellach a hyfforddiant hygyrch o fewn y gymuned mae’n ei gwasanaethu. Drwy ei ddarpariaeth ddysgu gyffredinol ac ychwanegol, ei nod yw sicrhau bod yr holl ddysgwyr sydd wedi cofrestru yn gallu gwneud cynnydd person-ganolog o fewn y cyrsiau a gynigir. Mae pob un o’n campysau’n cynnig cyrsiau wedi’u cynllunio i baratoi pobl ifanc ar gyfer astudio pellach a/neu gyflogaeth. I gael manylion llawn y rhaglenni a gynigir, cyfeiriwch at ein gwefan – www.csgcc.ac.uk
Mae ein campysau wedi cael eu cynllunio neu’u haddasu i fod mor hygyrch â phosibl ar gyfer ein holl ddysgwyr, gan gynnwys y rheiny â chyflyrau corfforol a synhwyraidd.
Mae staff Cymorth Dysgu ar gael ar bob campws i gefnogi dysgwyr gyda’u hastudiaethau. Rydyn ni’n croesawu ac yn dathlu niwroamrywiaeth ac, fel coleg, rydyn ni’n croesawu dysgwyr â ffyrdd amrywiol o ddysgu i’n hamgylchedd dysgu cynhwysol. Mae’r tîm Cymorth Dysgu yn gweithio’n agos gyda’r holl staff i sicrhau bod addysgu a dysgu yn hygyrch i ddysgwyr. Mae’r holl gymorth yn anelu at feithrin annibyniaeth dysgwyr yn amgylchedd y coleg a thu hwnt.
Mae gennym ddull person-ganolog - mae dysgu, dyheadau a dymuniadau’r person ifanc wrth wraidd eu taith addysgol yng Ngholeg Sir Gâr a Choleg Ceredigion. Bydd y dysgwr yn cael ei gynnwys yn y broses o gynllunio cymorth, gwneud penderfyniadau ac adolygu ymyriadau cymorth. Mae gan bob campws brif ystafell Cymorth Dysgu ddynodedig lle gall dysgwyr weithio mewn amgylchedd tawel a chefnogol.
Mae ein dull cynhwysol o addysgu a dysgu yn golygu ein bod yn gallu bodloni anghenion y mwyafrif o ddysgwyr ac rydyn ni’n cymryd pob cam rhesymol (gan roi sylw priodol i’r Ddeddf Cydraddoldeb, 2010) i sicrhau ein bod yn darparu addysgu o ansawdd uchel a chymorth priodol, yn seiliedig ar asesiad person-ganolog o anghenion pob dysgwr.



Manylion Cyswllt
01554 7488179
Julia Green
Cyfarwyddwr Cynorthwyol Profiad Dysgwyr a Chydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Dynodedig y Coleg