Cymorth Pontio
Intro
Mae cymorth gennym ar waith i’ch helpu i ddygymod â newid i le addysg newydd
Mae dewis cwrs newydd neu le newydd i astudio yn gallu bod yn gyffrous ond yn heriol. Rydyn ni yma i’ch cefnogi drwy’r broses.
Rydym yn gweithio’n agos gyda chi, rhieni/gwarcheidwaid, ysgolion ac asiantaethau allanol i helpu sicrhau bod eich pontio’n rhedeg yn ddiffwdan.
Mae’n bwysig bod eich cymorth yn cael ei gynllunio ymlaen llaw er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gallu bodloni eich anghenion.
Gallwn gynnig ymyriadau cymorth person-ganolog, megis:
-
Cyfarfod i drafod eich Cynllun Datblygu Unigol, y ffordd y mae gwell gennych chi gael eich cefnogi ac i ddiweddaru eich proffil un dudalen er mwyn hysbysu staff ynghylch sut orau i’ch cefnogi yn y coleg
-
Cysylltu â’ch rhieni neu ofalwyr, Gyrfaoedd ac asiantaethau eraill i gasglu a rhannu gwybodaeth ar sut orau i’ch cefnogi
-
Cyfathrebu â staff sydd mewn cysylltiad â chi fel eu bod yn gwybod sut orau i’ch cefnogi i gyflawni eich uchelgeisiau ac annibyniaeth
-
Ymweliad wedi’i bersonoli â’ch campws dewisol fel eich bod yn ymgyfarwyddo ag amgylchedd newydd.
-
Cynllunio eich cludiant i’r coleg.
-
Cefnogaeth gyda chofrestru.
-
Cefnogaeth gyda setlo i mewn i fywyd coleg megis cwrdd â chi’n rheolaidd, fel eich bod yn gallu cael mynediad i gymorth a’ch bod yn gwneud cynnydd.
Gellir gofyn am gymorth pontio yn eich cyfweliad neu drwy gysylltu â’n Swyddog Pontio.
Mae’n bwysig eich bod yn rhoi unrhyw dystiolaeth feddygol neu gymorth dysgu i ni fydd yn ein helpu i’ch cefnogi yn y coleg. Yna gallwn ni wneud yn siŵr bod eich cymorth yn cael ei gynllunio ymlaen llaw ac, os yn ofynnol, bod profiad pontio priodol yn cael ei drefnu ar eich cyfer.