Ydych Chi'n Ystyried Cwrs Coleg?
Dysgwch Fwy Am Gymorth Dysgu Yn Y Coleg
Mae ein coleg cynhwysol yn cynnig ystod eang o gyrsiau mewn Addysg Bellach, Addysg Uwch, Dysgu Seiliedig ar Waith a chyrsiau masnachol o lefel Mynediad i lefel Gradd. Ni waeth pa gwrs a ddewiswch, byddwch yn derbyn lefel uchel o gefnogaeth ac arweiniad oddi wrth ein timau staff darlithio ardderchog. Ein nod yw eich bod chi’n cael profiad dysgu pleserus, ysbrydoledig tra’n astudio yn ein coleg.
Mae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion dîm cymorth pwrpasol i gefnogi dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, anableddau ac anghenion meddygol o gyrsiau Cyn-mynediad i gyrsiau Lefel 6.
Rydyn ni’n cynnig dull person-ganolog i ddysgwyr ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae hyn yn golygu y byddwch chi’n cael eich cynnwys yn sut hoffech chi gael eich cefnogi. Mae ein tîm yn gweithio’n agos gyda staff cwricwlwm i sicrhau bod addysgu a dysgu yn hygyrch i bob dysgwr. Cynllunnir yr holl gymorth i feithrin eich annibyniaeth.
ANSICR?
Mae astudio mewn lle addysg newydd yn gyfle cyffrous. Rydyn ni’n deall, fodd bynnag, y gall fod yn heriol felly rydyn ni yma i’ch helpu drwy’r broses.
Os ydych chi’n ansicr ynghylch pa gwrs i astudio, gallwch chi gysylltu â’n tîm Cymorth Dysgu i drafod eich uchelgeisiau ac opsiynau posibl. Gall ein Swyddog Pontio eich cefnogi drwy’r broses (gweler Sut i Gysylltu â Ni).
ADOLYGIAD BLYNYDDOL YR YSGOL
Os oes gennych chi adolygiad blynyddol yn yr ysgol, gallwn ni fod yn bresennol fel eich bod yn gallu dod i wybod mwy am y coleg a chyrsiau. Gellir gwneud cais am hyn drwy Gydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALNCo) yr ysgol, Gyrfa Cymru neu drwy gysylltu â ni. Hefyd gallwn ni wneud yn siŵr eich bod yn gwneud cais am gwrs sy’n gweddu i’ch uchelgeisiau neu lwybr gyrfaol yn y dyfodol, trafod eich anghenion cymorth a’ch Cynllun Datblygu Unigol.