Skip page header and navigation

SUT YDW I’N CAEL MYNEDIAD I GYMORTH?

Mae cymorth ar gael drwy’r Lwfans i Fyfyrwyr Anabl (DSA). Cynllun a ariennir gan y llywodraeth, nad oes
angen prawf modd ar ei gyfer yw hwn a all dalu am gymorth y gallai fod ei angen arnoch yn ystod eich
astudiaethau. Efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am DSA os oes gennych angen dysgu ychwanegol (fel Anhawster Dysgu Penodol), anabledd neu gyflwr meddygol.

Bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth fel adroddiad Asesiad Diagnostig gan seicolegydd neu aseswr cymwysedig, neu lythyr gan weithiwr proffesiynol meddygol. Rhaid i ymgeiswyr fodloni’r diffiniad o ‘anabledd’ fel y nodir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.

Bydd angen i’n tîm eich cynorthwyo gyda’ch cais felly cysylltwch â Chydlynydd Cymorth Dysgu eich
campws. Mae gwybodaeth bellach ar gael drwy www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk

Myfyriwr yn morthwylio gemwaith yn siâp.

PA GYMORTH SYDD AR GAEL?

Os ydych yn gymwys, gall cymorth gynnwys: 

  • Addysgu arbenigol un-i-un 
  • Mynediad i Gynorthwyydd Astudio 
  • Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain 
  • Cyfarpar arbenigol 
  • Technoleg gynorthwyol gan gynnwys meddalwedd 
  • Addasiadau arholiad fel amser ychwanegol