Skip page header and navigation

Instructions

2 fachgen yn penlinio wrth ymyl llo yn gorwedd ar y llawr

Rhoi gwybod i ni

Mae hi’n bwysig iawn, os ydych yn bwriadu mynychu’r coleg, eich bod yn hysbysu’r tîm Cymorth Dysgu ynghylch eich anghenion cymorth ar y cam cynharaf posibl a chyn eich cyfweliad. 

Mae hyn oherwydd rydym am fod yn siŵr y gallwn fodloni eich anghenion cymorth cyn i chi ymuno â’n cyrsiau.

Sut i roi gwybod i ni 

01
- DIWRNODAU AGORED - Bydd aelod o’r tîm Cymorth Dysgu ar gael i drafod eich anghenion cymorth dysgu ychwanegol.
02
- GWNEUD CAIS - Os ydych chi’n gwybod pa gwrs hoffech chi astudio, gallwch chi wneud cais yn www.csgcc.ac.uk Rhowch wybod i ni ar y ffurflen gais bod gennych chi anghenion dysgu ychwanegol a ph’un a ydych chi angen addasiadau yn eich cyfweliad
03
- CYFWELIAD - Yn ogystal gallwch chi ofyn bod aelod o’r tîm Cymorth Dysgu yn bresennol yn y cyfweliad.
04
- COFRESTRU - Gallwch chi ofyn i gwrdd ag aelod o’n tîm i drafod eich anghenion cymorth.
05
- HOLIADUR CYMORTH DYSGU - Mae pob dysgwr yn cael cyfle i gwblhau holiadur fel ein bod yn gallu dod i wybod am eich anghenion dysgu a’r dewisiadau sydd well gennych.
06
- AR GWRS - Os ar unrhyw adeg ar eich cwrs rydych chi’n teimlo y gall fod angen cymorth dysgu ychwanegol arnoch chi, gallwch chi gysylltu â’r Cydlynydd Cymorth Dysgu neu gall eich tiwtor eich atgyfeirio.