
Newyddion Coleg Sir Gâr - Mawrth 2025
Croeso i'n cylchlythyr diweddaraf
Cewch yr holl newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd diweddaraf. O straeon llwyddiant ysbrydoledig i nosweithiau agored sydd ar ddod, mae digon i’w archwilio. Daliwch ati i ddarllen i ddal i fyny ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd!
Mae Dainton Harris, myfyriwr 16 oed ar gampws Rhydaman Coleg Sir Gâr, yn rhagori ym myd crefftau ymladd cymysg (MMA) tra’n astudio gwaith plymwr.

Mae Trudy Morris yn yrrwr HGV-cymwysedig a mecanig cerbydau modur sy’n gweithio fel technegydd yng nghanolfan cerbydau modur Coleg Sir Gâr ar gampws Pibwrlwyd yng Nghaerfyrddin.

News items 2
Mae myfyriwr arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael ei ddewis i gystadlu yng nghystadleuaeth Riso Gallo, sef Pen-cogydd Risotto Ifanc y Flwyddyn y DU ac Iwerddon yng Nghlwb H Tottenham Hotspur ym mis Mehefin.
Fe wnaeth Harry Howells, un ar bymtheg oed o Lanelli, sy’n astudio coginio proffesiynol a gwasanaeth bwyd ar gampws Pibwrlwyd y coleg yng Nghaerfyrddin, ennill aur yn rownd Cymru’r gystadleuaeth ynghyd â’i gyd-fyfyriwr Ryan Abbekerk.

Mae Ben wedi bod yn ddysgwr ymroddgar a gweithgar trwy gydol ei addysg gwaith saer. Gwnaeth dysgu yn y cartref roi profiad dysgu unigryw ac ymarferol iddo, a gwnaeth gwaith coed gyda’i dad feithrin ei gariad dros grefftwaith.

Myfyrwyr gwyddoniaeth Safon Uwch yn cael rhagflas o imiwnoleg ym Mhrifysgol Abertawe Cymerodd myfyrwyr ar raglenni gwyddoniaeth Safon Uwch ran mewn sesiwn ragflas imiwnoleg ymarferol ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o Raglen Maes Meddygol cydweithredol y sefydliadau.

Meithrin pobl ifanc greadigol gyda’r Clwb Celf Sadwrn Cenedlaethol
Ar hyn o bryd Coleg Sir Gâr yw’r unig glwb yng Nghymru sy’n cyflwyno’r fenter, gyda’i glwb celf a dylunio, a gynhelir ar fore Sadwrn ar gyfer plant 13-16 oed ar gampws y coleg yn y Graig.
Datblygwyd y clwb tua 15 mlynedd yn ôl pan roddwyd y syniad ar waith gan y sefydlwyr Syr John Sorrell a’r Fonesig Frances Sorrell gyda chefnogaeth eu Sefydliad Sorrell.
