O Weithiwr Coed a Gafodd ei Addysg Gartref i Brentis Gwobrwyedig: Siwrnai Gwaith Saer Ben gyda Choleg Sir Gâr a TRJ

Mae Ben wedi bod yn ddysgwr ymroddgar a gweithgar trwy gydol ei addysg gwaith saer. Gwnaeth dysgu yn y cartref roi profiad dysgu unigryw ac ymarferol iddo, a gwnaeth gwaith coed gyda’i dad feithrin ei gariad dros grefftwaith. Yn 2018-2019, cwblhaodd gymwysterau TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, wedyn cwrs gwaith saer sylfaenol yn 2019-2020, lle meistrolodd uniadau traddodiadol megis Mortais a Thyno, Cynffonnog, a Bagl. Rhoddodd leoliad gwaith pythefnos gyda chwmni TRJ ger cae pêl-droed Rhydaman brofiad safle amhrisiadwy iddo.
Yn 2020-2021, gwnaeth Ben gynnydd mewn gwaith saer, gan ganolbwyntio’n fwy ar iechyd a diogelwch ac ar yr un pryd mireinio ei sgiliau ymarferol. Y flwyddyn ganlynol, fe wnaeth effaith Covid ar brentisiaethau ei arwain i weithio’n llawn amser gyda TRJ, lle enillodd sgiliau gweithle hanfodol mewn cyfathrebu, gwaith tîm, a datrys problemau.
Pan ddychwelodd i addysg ffurfiol yn 2022-2023, dechreuodd Ben ei gymhwyster Gwaith Saer ac Asiedydd Lefel 3, gan gydbwyso tasgau ymarferol gyda dysgu damcaniaethol. Datblygodd ddatganiadau dull, asesiadau risg, a rhestrau offer, gan arddangos gwytnwch er gwaethaf newidiadau yn strwythur y cwrs. Yn 2023-2024, bu wrthi’n gwella ei sgiliau mewn ffitiadau cegin, gosodiadau staeriau, a hongian drysau tra’n dogfennu prosiectau trydedd flwyddyn hefyd a chystadlu mewn cystadlaethau skill build, gan ennill medal arian.
Nawr yn 2024-2025, mae Ben yng nghyfnod olaf ei gymhwyster, yn mynd i’r afael â chwe thasg gynhwysfawr, gan gynnwys asesiadau risg a datganiadau dull. Cydnabuwyd ei ymrwymiad pan enillodd y gystadleuaeth ranbarthol yng Nghasnewydd, gan sicrhau lle yn y rowndiau terfynol cenedlaethol. Mae ei daith yn amlygu’r gefnogaeth eithriadol mae wedi’i derbyn gan Goleg Sir Gâr, TRJ, a’i Ymgynghorydd Hyfforddi, Beverley Bovett. Mae’r bartneriaeth gref hon wedi darparu’r arweiniad, hyfforddiant, a’r cyfleoedd sydd wedi’i alluogi i ragori.
Mae’r rhaglen brentisiaethau wedi meithrin cydweithrediad neilltuol rhwng Coleg Sir Gâr a TRJ, gan arddangos manteision prentisiaethau o ran darparu profiad byd go iawn a datblygiad proffesiynol. Cafodd ymroddiad cwmni TRJ i brentisiaethau ei gydnabod pan enillon nhw Gyflogwr Maint Canolig y Flwyddyn yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru yn 2024. Mae twf a llwyddiant Ben yn enghraifft o sut mae prentisiaethau yn meithrin talent, hyder a pharodrwydd gyrfaol, gan ei wneud yn ffigur addawol yn y diwydiant gwaith saer.