Myfyrwyr gwyddoniaeth Safon Uwch yn cael rhagflas o imiwnoleg ym Mhrifysgol Abertawe
Myfyrwyr gwyddoniaeth Safon Uwch yn cael rhagflas o imiwnoleg ym Mhrifysgol Abertawe Cymerodd myfyrwyr ar raglenni gwyddoniaeth Safon Uwch ran mewn sesiwn ragflas imiwnoleg ymarferol ym Mhrifysgol Abertawe fel rhan o Raglen Maes Meddygol cydweithredol y sefydliadau.
Cafodd myfyrwyr weithio yn un o labordai modern y brifysgol, lle dysgon nhw sut i bennu mathau o waed gan ddefnyddio gwrthgyrff.
Roedd y dasg ymarferol yn gofyn iddynt ddadansoddi mathau o waed tri unigolyn a’u haddasrwydd i roi gwaed i glaf penodol.
Arweiniwyd y sesiwn gan Dr April Rees, darlithydd mewn biocemeg y mae ei meysydd arbenigedd yn cynnwys imiwnoleg, imiwnometaboledd ac awtoimiwnedd.
Mae Coleg Sir Gâr, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yn rhedeg y Rhaglen Maes Meddygol i dynnu sylw at y gyrfaoedd a chyfleoedd amrywiol a’r rolau ategol sydd ar gael yn y sector gofal iechyd, nad ydynt yn wynebu cleifion o reidrwydd.
Mae’n tynnu sylw at yrfaoedd y tu allan i, ond gan gynnwys rôl y meddyg traddodiadol, fel biocemeg, awdioleg, geneteg, radiograffeg a theatr.
Dr Susan Ford, darlithydd mewn cemeg yng Ngholeg Sir Gâr, sy’n arwain y rhaglen a dywedodd: “Nod y rhaglen Maes Meddygol yw ysbrydoli myfyrwyr i archwilio’r gyrfaoedd amrywiol a phroffesiynol niferus sydd ar gael ym maes gofal iechyd.
“Trwy fynychu’r sesiynau unigryw hyn yn y brifysgol, rydym yn gobeithio cynnig profiad prifysgol i fyfyrwyr er mwyn helpu pontio’r bwlch rhwng addysg coleg a phrifysgol a dangos iddynt y cyfleoedd sydd ar gael
iddyn nhw.”
Dysgodd y grŵp hefyd am y gwahanol raddau a llwybrau sydd ar gael i astudio graddau biofeddygol yn y brifysgol.