Cefnogi myfyrwyr a staff yn ei rôl fel technegydd cerbydau modur: Dewch i gwrdd â Trudy Morris

Mae Trudy Morris yn yrrwr HGV-cymwysedig a mecanig cerbydau modur sy’n gweithio fel technegydd yng nghanolfan cerbydau modur Coleg Sir Gâr ar gampws Pibwrlwyd yng Nghaerfyrddin.
Wedi’i hysbrydoli gan ei thad, mecanig oedd yn rhedeg ei gwmni cludo nwyddau ei hun, tyfodd Trudy i fyny yn helpu allan gyda phob math o dasgau a cherbydau yn ei weithdy.
Beth wnaeth ei sbarduno mewn gwirionedd i weithio gyda cherbydau oedd y ffaith rhoddwyd hen gar Mini iddi ar ei phen blwydd yn 15 oed, sef prosiect y bu’n gweithio arno gyda’i thad tan ei bod yn ddigon hen i yrru. “Gweithio ar y mini hwnnw wnaeth dy sbarduno a dweud y gwir,” meddai Trudy.
Ar ôl iddi adael yr ysgol, dechreuodd Trudy gwrs llawn amser yng Ngholeg Sir Gâr, lle mae hi bellach yn gweithio, ac yna cofrestrodd ar gyfer prentisiaeth mewn garej gan ddatblygu ei sgiliau cyflogadwyedd ai chymwysterau.
Yn ystod yr amser hwn, roedd hi hefyd yn gweithio yng Nghlwb Dydd Sadwrn y coleg ar gyfer pobl ifanc â diddordeb mewn mecaneg ceir. Fel gyrrwr beic modur brwd, roedd hi hefyd yn gweithio dwy noson yr wythnos ar gwrs cynnal a chadw ac atgyweirio beiciau modur y coleg.
Yn ogystal treuliodd Trudy ychydig o flynyddoedd yn gyrru cerbydau cludo nwyddau wedi iddi gymhwyso a chael trwydded HGV.
Mae ei rôl gyfredol fel technegydd yng Ngholeg Sir Gâr, yn golygu cynnal a chadw cerbydau’r ganolfan, archwilio cyfarpar ac offer, archebu cydrannau, paratoi’r gweithdy ar gyfer sesiynau ymarferol myfyrwyr a chefnogi darlithwyr a myfyrwyr yn gyffredinol yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd.
Meddai Trudy Morris: “Rwy’n mwynhau’n fawr iawn cwrdd â’r myfyrwyr a dod i’w hadnabod a gwylio eu hyder yn tyfu.
“Yn y fasnach fodurol mae rhywbeth gwahanol i wneud bob amser a dydych chi fyth yn stopio dysgu pethau newydd.
“Mae’r diwydiant yn newid mor gyflym, sy’n her yn ei hun o ran ceisio symud gyda’r oes.”