Skip page header and navigation
Harry holding his risotto in a chef uniform

Mae myfyriwr arlwyo a lletygarwch yng Ngholeg Sir Gâr wedi cael ei ddewis i gystadlu yng nghystadleuaeth Riso Gallo, sef Pen-cogydd Risotto Ifanc y Flwyddyn y DU ac Iwerddon yng Nghlwb H Tottenham Hotspur ym mis Mehefin. 

Fe wnaeth Harry Howells, un ar bymtheg oed o Lanelli, sy’n astudio coginio proffesiynol a gwasanaeth bwyd ar gampws Pibwrlwyd y coleg yng Nghaerfyrddin, ennill aur yn rownd Cymru’r gystadleuaeth ynghyd â’i gyd-fyfyriwr Ryan Abbekerk.

Dewiswyd Harry wedyn fel y cystadleuydd o Gymru gyfan, a fydd yn symud ymlaen i gystadlu yn y rownd derfynol yn Llundain ble bydd ei sgiliau gwneud risotto’n cael eu beirniadu gan rai o ben-cogyddion gorau’r diwydiant.

Mae rhai o’r beirniaid yn cynnwys Adriano Cavagnini pen-cogydd gweithredol yng Ngwesty Bulgari yn Llundain, Danilo Cortellini, pen-cogydd gweithredol Llysgenhadaeth yr Eidal a Barney Desmazery, golygydd sgiliau a sioeau Good Food y BBC.

Yn rownd Cymru o gystadleuaeth Riso Gallo, creodd Harry risotto madarch gwyllt gyda sglodion parmesan priodol i’w werthoedd traddodiadol a thymhorol. 

Bydd e bellach yn cystadlu gyda therfynwyr eraill o ranbarthau ar draws Lloegr, Gogledd Iwerddon, Yr Alban, ac Iwerddon yng Nghlwb H Tottenham Hotspur ble bydd y buddugwr yn ennill interniaeth coginiol gyda Fabio Pisani, Alessandro Negrini a’u tîm ym mwyty dwy seren Michelin Il Luogo ym Milan. Bydd yr enillydd ail orau yn ennill interniaeth coginiol tri-diwrnod yn Llysgenhadaeth yr Eidal yn Llundain.

Meddai Harry Howells: “Roeddwn i’n llawn cyffro yn ennill aur, ond mae hwn yn rhywbeth arall.

“Rwy’n falch bod pen-cogyddion o’r radd flaenaf wedi cydnabod fy mwyd ac er fy mod mewn sioc o hyd, rwy’n teimlo’n gyffrous ynghylch mynd i gystadlu ac rwy’n barod i gadw ymarfer ar gyfer y cam nesaf.”

Mae staff yn y coleg sydd â phrofiad helaeth o letygarwch proffesiynol a’r celfyddydau coginiol, wedi cymryd Harry dan eu hadain a bu’n ymarfer ar gyfer rownd Cymru am fisoedd. 

Ychwanegodd Harry Howells: “Gwnaeth fy nhiwtoriaid fy annog i gyflawni briff y gystadleuaeth a rhoddon nhw gynhwysion i mi i ymarfer gartre ac yn y coleg.

“Fyddwn i erioed wedi’i wneud heb eu cefnogaeth a’u harweiniad.” 

Meddai Daniel Williams, pen-cogydd, perchennog bwyty a darlithydd: “Rydyn ni’n falch iawn o Harry; mae’n gyflawniad syfrdanol i ben-cogydd ifanc dawnus.  

“Mae ei ymroddiad, ymrwymiad a’i waith caled wedi talu ar ei ganfed ac mae’r adran arlwyo gyfan yng Nghegin Sir Gâr ym Mhibwrlwyd yn dymuno pob lwc i Harry wrth iddo gynrychioli Cymru yn rownd derfynol y DU yn Llundain ym mis Mehefin. Pob Lwc.”

Cynhaliwyd rhagbrawf cenedlaethol Cymru dros dridiau yn WICC a chanmolwyd safon uchel y seigiau gan Domenico Maggi, o Ffederasiwn Cogyddion Eidalaidd a chyn-gyfarwyddwr cyfandirol Worldchefs o Dde Ewrop.

 Dywedodd wrth Harry a dau enillydd medal aur arall fod eu risotto wedi’i goginio’n berffaith gyda blas a chydbwysedd. Anogodd holl gogyddion ifanc Cymru i barhau i goginio gydag angerdd. Dywedodd Arwyn Watkins, OBE, llywydd CAW: “Rydym wrth ein bodd ein bod unwaith eto wedi dod o hyd i gogydd ifanc anhygoel sydd â’r potensial i wneud Cymru’n falch yn rownd derfynol y DU yn ddiweddarach eleni. “Rwy’n edrych ymlaen at fynychu’r rownd derfynol a, gobeithio, bydd Cymru am y tro cyntaf yn dod â’r teitl adref ar ôl ennill yr ail safle yn 2024.”

Harry with other Coleg Sir Gar winners at the Welsh championships wearing medals

Rhannwch yr eitem newyddion hon