Skip page header and navigation
Student Dainton Harris at Welsh Youth MMA Championships

Mae Dainton Harris, myfyriwr 16 oed ar gampws Rhydaman Coleg Sir Gâr, yn rhagori ym myd crefftau ymladd cymysg (MMA) tra’n astudio gwaith plymwr.

Ar ddydd Sadwrn 25ain Ionawr, bu Dainton yn cystadlu ym Mhencampwriaethau Ieuenctid MMA cyntaf erioed Cymru, gan sicrhau ei le mewn hanes trwy ddod yn Bencampwr Ieuenctid MMA Pwysau Plu cyntaf erioed Cymru. Gan arddangos sgil, penderfyniad, ac ymwybyddiaeth dactegol, stopiodd ei wrthwynebydd yn yr ail rownd i hawlio buddugoliaeth.

Yr hyn sy’n rhyfedd, yw mai dim ond ers blwyddyn y mae Dainton wedi bod yn ymarfer mewn crefftau ymladd cymysg (MMA), ond mae wedi codi i frig ei adran yn barod, gan gyrraedd y safle cyntaf ar gyfer ieuenctid pwysau plu yng Nghymru. Mae ei ddawn neilltuol a’i ymroddiad wedi’i wneud yn ddewis cyntaf i MMA Cymru ar gyfer unrhyw gystadlaethau’r ffederasiwn IMMAF neu gystadlaethau rhyngwladol eleni.

Mae Dainton, sy’n ymarfer chwe diwrnod yr wythnos yn academi Olympus Martial Arts yn Rhydaman, yn talu nôl i’r gamp drwy helpu hyfforddi plant iau, gan ddangos arweinyddiaeth a chyfrifoldeb nodedig am un mor ifanc.

Mae ei gyflawniad yn nodi dechreuad yr hyn sy’n addo bod yn ddyfodol llwyddiannus yn y crefftau ymladd cymysg (MMA).

Rhannwch yr eitem newyddion hon

Tagiau