Skip page header and navigation

Ymarferydd PRINCE2 (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

PRINCE2® yw’r dull a ddefnyddir fwyaf yn y byd ar gyfer rheoli prosiectau, gyda dros filiwn o weithwyr ardystiedig proffesiynol ar draws 150 o wledydd ledled y byd. Wedi’i ddatblygu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, mae’n cynnig methodoleg hyblyg, ymarferol a graddadwy, i helpu rheoli unrhyw brosiect, waeth beth fo’i faint neu ei fath.

Gofynion mynediad isod

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Pellter
Hyd y cwrs:
2 Diwrnod
Gofynion mynediad:
Gofynion mynediad isod

Cysylltwch am brisiau (Cyllid ar Gael)

Achrededig:
prince2 logo
People Cert logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

●    nid yw eich cyflog sylfaenol blynyddol yn mynd dros £32,371.

Bydd y cwrs hyfforddi Ymarferydd PRINCE2 (7ed argraffiad) yn dysgu methodoleg PRINCE2 i’r dysgwyr, sy’n cynnwys saith Egwyddor, Themâu a Phrosesau. Mae’r Egwyddorion yn cynrychioli’r ‘pam’, mae’r Themâu yn cynrychioli’r ‘beth’, ac mae’r Prosesau’n cynrychioli’r ‘sut’ o ran rheoli prosiectau. Gyda’i gilydd mae’r methodolegau hyn yn darparu llwybr clir i helpu sicrhau rheoli prosiect yn llwyddiannus.

Bydd cwblhau’r cymhwyster hwn yn caniatáu i ddysgwyr elwa ar gymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang. Bydd yn rhoi hwb i’w hyder wrth reoli prosiectau ac yn gwella eu cyflogadwyedd a’u rhagolygon gyrfa.

Mae’r cwrs Ymarferydd PRINCE2 hwn yn addas ar gyfer unigolion sydd eisoes wedi cwblhau’r cymhwyster Sylfaen PRINCE2 ac sy’n awyddus i symud ymlaen i gyfrifoldebau uwch o fewn tîm rheoli prosiectau, megis dod yn Rheolwr Prosiectau.

Rydym yn argymell y cymhwyster PRINCE2 hwn i unigolion sydd am gael hyfforddiant rheoli prosiectau o’r radd flaenaf, gan ennill y sgiliau sydd eu hangen i wella rhagolygon cyflogadwyedd a datblygu gyrfa fel Rheolwr Prosiectau.

Mae llawer o swyddi cyffrous ar gael i uwch aelodau tîm rheoli prosiectau sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant Ymarferydd PRINCE2, gan gynnwys:

  • Dadansoddwr Busnes Iau
  • Rheolydd Prosiectau
  • Uwch Ddadansoddwr Prosiectau
  • Rheolwr Prosiectau

Gofynion Mynediad

I ddechrau astudio’r cymhwyster Ymarferydd PRINCE2, bydd angen bod dysgwyr wedi pasio naill ai y cymhwyster Sylfaen PRINCE2 (5ed Argraffiad neu 6ed Argraffiad) neu:

  • Gweithiwr Proffesiynol Rheoli Prosiectau (PMP)
  • Cyswllt Ardystiedig mewn Rheoli Prosiectau (CAPM)
  • IPMA Lefel A, B, C, neu D

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.