Skip page header and navigation

Rheoli Prosiect Agile Sylfaen ac Ymarferwr (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

Mae AgilePM yn cyflwyno fframwaith Rheoli Prosiect Agile DSDM, methodoleg bragmatig ac ailadroddadwy. Mae’r cwrs hwn yn esbonio sut i baratoi ar gyfer prosiect agile a’i redeg, gan amlygu dogfennaeth, technegau, rolau a chyfrifoldebau a argymhellir o fewn y fframwaith.

Bydd hyfforddiant AgilePM® yn eich galluogi i wneud eich prosiectau’n fwy cynhyrchiol trwy ddull “agile”, gan ei wneud yn haws i newid y cwmpas wrth i gylchred oes y prosiect barhau. Mae’r cwrs Rheoli Prosiect Agile hwn yn ddelfrydol ar gyfer Rheolwyr Prosiect profiadol sydd am hyfforddi yn nisgyblaethau Agile, a hefyd ar gyfer Rheolwyr Prosiect newydd, sydd am ennill cymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Pellter
Hyd y cwrs:
4 diwrnod

Cysylltwch am brisiau (Cyllid ar Gael)

Achrededig:
APMG logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

●    nid yw eich cyflog sylfaenol blynyddol yn mynd dros £32,371.

Dull Agile tuag at reoli gofynion;

Athroniaeth ac egwyddorion sylfaenol AgilePM;

Y rolau a’’r cyfrifoldebau a sut i’w neilltuo o fewn prosiect Agile;

Sut i nodi a defnyddio technegau Agile poblogaidd mewn sefyllfa brosiect, gan gynnwys techneg flaenoriaethu MoSCoW, datblygiad ailadroddol a neilltuo blociau amser;

Mecanweithiau ar gyfer llywodraethu a rheoli prosiect Agile;

Sut i brofi, amcangyfrif a mesur cynnydd prosiect Agile

Dewis y dull priodol

Rheolwyr prosiect gweithredol, aelodau tîm sy’n bwriadu dod yn Rheolwyr Prosiect Agile.

Perchennog Cynnyrch Rhyngwladol APMG 

Meistr Scrum Rhyngwladol APMG 

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

ReAct+ Funding

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.