PRINCE2 Sylfaen (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Ar-Lein
Dull ar gyfer rheoli prosiectau sy’n cael ei ddefnyddio’n fyd-eang yw PRINCE2®, sydd â dros filiwn o weithwyr ardystiedig proffesiynol ar draws 150 o wledydd. Wedi’i ddatblygu gan weithwyr proffesiynol y diwydiant, mae’n cynnig methodoleg hyblyg, ymarferol a graddadwy, i helpu rheoli prosiectau o unrhyw faint neu fath.
Manylion y cwrs
- Pellter
Cysylltwch am brisiau (Cyllid ar Gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
● nid yw eich cyflog sylfaenol blynyddol yn mynd dros £32,371.
Mae’r cwrs sylfaen PRINCE2 (7ed argraffiad) yn dysgu methodoleg PRINCE2 i’r dysgwyr, sy’n cynnwys saith Egwyddor, Themâu a Phrosesau. Mae’r Egwyddorion yn cynrychioli’r ‘pam’, mae’r Themâu yn cynrychioli’r ‘beth’, ac mae’r Prosesau’n cynrychioli’r ‘sut’ o ran rheoli prosiectau. Gyda’i gilydd mae’r methodolegau hyn yn darparu llwybr clir i ddysgwyr er mwyn sicrhau rheoli prosiectau’n llwyddiannus.
Bydd cwblhau’r cymhwyster hwn yn caniatáu i ddysgwyr elwa ar gymhwyster a gydnabyddir yn fyd-eang. Bydd yn rhoi hwb i’w hyder wrth reoli prosiectau ac yn gwella eu cyflogadwyedd a’u rhagolygon gyrfa.
Bydd yr hyfforddiant ardystiedig Sylfaen PRINCE2 yn addysgu’r derminoleg a’r egwyddorion sydd eu hangen ar ddysgwyr i ddod yn aelod gwybodus o dîm rheoli prosiectau. Argymhellir y cymhwyster Sylfaen PRINCE2 i unigolion sydd am ennill sgiliau rheoli prosiectau o’r radd flaenaf a gwella eu rhagolygon cyflogaeth a byddai’n addas ar gyfer y rheiny sydd am fynd ymlaen i lefel Ymarferydd PRINCE2.
Ar gwblhau’r cwrs Sylfaen PRINCE2 yn llwyddiannus a phasio arholiad Sylfaen PRINCE2, gall dysgwyr ddechrau gweithio mewn swyddi Rheoli Prosiectau ar lefel mynediad, megis:
- Gweinyddwr Prosiectau
- Dadansoddwr Rheoli Prosiectau
- Rheolwr Prosiectau Iau
- Cymorth Rheoli Prosiectau
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.