PRINCE2 Ymarferydd Agile® (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Ar-Lein
Mae PRINCE2 Agile® yn gyfuniad o fethodolegau rheoli prosiect - PRINCE2 ac Agile, sy’n cyfuno fframwaith diffiniedig gydag ymatebolrwydd prosiect. Cynlluniwyd y ddwy fethodoleg hyn ar gyfer unigolion a sefydliadau sy’n deall y manteision gaiff Agile ar brosiect, pan y’i cyfunir gyda PRINCE2.
Gofynion mynediad isod
Manylion y cwrs
- Pellter
Cysylltwch am brisiau (Cyllid CDP ar Gael)
Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
● nid yw eich cyflog sylfaenol blynyddol yn mynd dros £32,371.
Mae’r pynciau a gynhwysir yn y cwrs hwn yn cynnwys trosolwg o PRINCE2, trosolwg o PRINCE2 Agile, themâu mewn lleoliad Agile, meysydd ffocws. Prosesau mewn lleoliad Agile, ystyriaethau pellach, efelychydd arholiadau ac astudiaeth achos a gweithgareddau PRINCE2 Agile.
Cyflwynir ein cyrsiau ystafell ddosbarth Rheoli Prosiectau Agile gan hyfforddwyr cymwys sy’n meddu ar brofiad helaeth yn y diwydiant rheoli prosiectau gan ddefnyddio methodoleg Agile. Maent i gyd yn darparu gwybodaeth ddigonol am brosesau damcaniaethol ac ymarferol Agile, gan arddangos eu profiad o 15 o flynyddoedd a mwy yn gweithio ym maes rheoli prosiectau.
Mae’r cwrs hwn yn agored i unrhyw un sy’n dymuno ei ddilyn a byddai’n fuddiol iawn i reolwyr prosiectau, gweinyddwyr prosiectau, rheolwyr rhaglenni, penaethiaid newid a llawer mwy.
Bydd ystod eang o swyddi Rheoli Prosiectau yn agored i ddysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymwysterau Sylfaen ac Ymarferydd PRINCE2 Agile yn llwyddiannus.
Gofynion Mynediad
Er mwyn gallu cofrestru ar y cwrs Ymarferydd PRINCE2 Agile mae angen i unigolion fod wedi cwblhau un o’r cymwysterau canlynol:
- Sylfaen PRINCE2
- Sylfaen PRINCE2 Agile
- Gweithiwr Proffesiynol Rheoli Prosiectau (PMP)
- Cyswllt Ardystiedig mewn Rheoli Prosiectau (CAPM)
- IPMA Lefelau A, B, C a D (Cyfarwyddwr Prosiectau Ardystiedig)
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.