Skip page header and navigation

Sylfaen ITIL® (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

Mae cwrs Sylfaen ITIL® yn addysgu’r newid diweddaraf i faes llafur a fframwaith rheoli gwasanaethau ITIL® gan AXELOS. Mae’r newid yn adlewyrchu’r trawsnewid digidol, a elwir yn “y Pedwerydd Chwyldro Diwydiannol” neu “Diwydiant 4.0”, y mae’r byd yn mynd trwyddo a sut mae angen cynrychioli hynny trwy i ddarparwyr gwasanaethau alinio eu hunain â strategaethau busnesau ac anghenion cwsmeriaid. Mae ITIL® yn darparu canllawiau cynhwysfawr, ymarferol a phrofedig ar gyfer sefydlu system rheoli gwasanaethau.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Pellter
Hyd y cwrs:
2 Diwrnod

Cysylltwch am brisiau (Cyllid ar Gael)

Achrededig:
ITIL logo
People Cert logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.

Yn ogystal, rhaid i chi fod:

●    yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu

●    yn hunangyflogedig neu

●    yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)

Er mwyn deall y cwrs manwl hwn yn well ymdrinnir â phynciau amrywiol gan gynnwys cyflwyniad, cysyniadau allweddol rheoli gwasanaethau, pedwar dimensiwn rheoli gwasanaethau, system gwerth gwasanaethau ITIL® ac egwyddorion arweiniol ITIL®. Y gadwyn gwerth gwasanaethau, arferion rheoli cyffredinol, egwyddorion rheoli gwasanaethau ac egwyddorion rheolaeth dechnegol.

Gyda’r cwrs yn cwmpasu dau ddiwrnod bydd dysgwyr yn cael dealltwriaeth drylwyr o faes llafur newydd Sylfaen ITIL®. Mae llawlyfr swyddogol ITIL® a’r maes llafur swyddogol a ryddhawyd yn ddiweddar gan AXELOS wedi’u cynnwys ym mhris y cwrs sy’n sicrhau y bydd gwybodaeth a chymhwyster y dysgwyr yn gyfredol ac yn berthnasol. Mae’r arholiad wedi’i gynnwys yn y pris a bydd yn cael ei sefyll ar ddiwrnod olaf yr hyfforddiant.

Mae’r cwrs Sylfaen ITIL® yn addas ar gyfer dysgwyr sydd am ddechrau eu gyrfa ym maes rheoli gwasanaethau TG. Yn ogystal mae’n addas ar gyfer gweithwyr TG presennol sydd am symud i rôl rheoli gwasanaethau a gweithwyr proffesiynol mewn amrywiol feysydd TG sy’n canolbwyntio ar gyflwyno gwasanaethau. Oherwydd y newidiadau yn y cymhwyster mae’r cwrs hwn hefyd yn addas i’r rheiny sydd eisoes yn meddu ar y cymhwyster Sylfaen ITIL® ac sydd am ddiweddaru eu gwybodaeth i gyd-fynd â’r fersiwn ddiweddaraf.

Gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill ar ôl iddynt ennill tystysgrif gwblhau ar gyfer y cwrs hwn.

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.