Skip page header and navigation

Perchennog Cynnyrch Rhyngwladol (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)

Mae’r cwrs achrededig hwn yn mynd i’r afael â’r egwyddorion a’r theori sy’n sail i’r fframwaith Scrum, a rôl y Perchennog Cynnyrch sydd ynddo.

Mae’r cwrs yn arwain at gymhwyster Perchennog Cynnyrch Scrum ABC. Pwrpas yr hyn yw mesur p’un a yw ymgeisydd yn meddu ar wybodaeth a dealltwriaeth ddigonol o Egwyddorion Agile a’r Canllawiau Scrum 2020, a ddarperir fel deunyddiau darllen cyn y cwrs, yn ogystal â rhai technegau sylfaenol sy’n ofynnol i fodloni ei atebolrwydd fel y disgrifir yn y Canllaw Scrum.

Mae’r cymhwyster hwn wedi’i anelu’n bennaf at unigolion sydd am feithrin eu cymhwysedd fel Perchennog Cynnyrch Scrum naill ai wrth baratoi i gymryd y rôl honno neu fel rhywun sydd eisoes yn cyflawni’r rôl ac sydd am sicrhau ei fod yn bodloni ei atebolrwydd yn briodol.

Bydd unigolion sy’n ymwneud â defnyddio’r fframwaith Scrum, neu a achredir fel Meistri Scrum – gydag atebolrwydd i wasanaethu Perchennog Cynnyrch eu timau –  a’r rheiny sydd angen deall sut mae rôl y Perchennog Cynnyrch yn gweithio mewn gwirionedd hefyd yn elwa o’r dysgu sy’n gysylltiedig â’r cymhwyster hwn.

Manylion y cwrs

Dulliau astudio:
  • Pellter
Hyd y cwrs:
2 Ddiwrnod

Cysylltwch am brisiau (Cyllid ar Gael)

Achrededig:
APMG logo

Disgrifiad o'r Rhaglen

Learner must reside legally in Wales and be aged 19 years old or over.

In addition, individuals must be:

  • employed (including Agency and Zero-hours contracts) or

  • self-employed or

  • full-time carers (incl. non-paid)

Hunan-drefniant;
Hanfodion Agile;
Datblygu cynnyrch empirig a Theori Scrum;
Digwyddiadau Scrum;
Tîm Scrum ac atebolrwydd;
Arteffactau ac Ymrwymiad;
Cyrchnodau cynnyrch, mapiau ffordd a rhagweld ôl-groniad cynnyrch;
Mireinio ôl-groniad.
 

Argymhellir y cwrs hwn ar gyfer rheolwyr prosiect sy’n meddu ar brofiad o weithio gyda phrosiectau Agile neu ar gyfer unigolion uchelgeisiol sydd wedi cwblhau cwrs sylfaen a chwrs ymarferwr Rheoli Prosiect Agile.

Meistr Scrum Rhyngwladol APMG

Cyllid CDP

Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.

Cyllid ReAct+

Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.