
Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Ynni Domestig
- Campws y Gelli Aur
- Ar-Lein
Lansiwch eich gyrfa fel Aseswr Ynni Domestig (DEA) gyda’r cymhwyster proffesiynol hwn, sydd wedi’i gynllunio ar gyfer y rheiny sydd am fynd i faes cynyddol asesu ynni.
Fel DEA cymwys, byddwch yn gallu cofrestru gyda Chynllun Achredu a chynhyrchu Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs) ar gyfer cartrefi presennol, gan sicrhau cydymffurfio â deddfwriaeth y DU a Chyfarwyddeb yr UE ar Berfformiad Ynni Adeiladau.
Enillwch ardystiad a gydnabyddir gan y diwydiant, helpwch berchnogion tai i wella effeithlonrwydd ynni, ymunwch â sector y mae galw uchel amdano sy’n gyrru cynaladwyedd a chychwynnwch ar eich taith tuag at yrfa werth chweil ym maes asesu ynni heddiw!
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Cyllid CDP ar gael

Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.
- Enillwch y cymhwyster proffesiynol sydd ei angen i asesu ac ardystio perfformiad ynni cartrefi presennol.
- Dysgwch sut i gynhyrchu Tystysgrifau Perfformiad Ynni, sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith ers 2008, sy’n sgorio effeithlonrwydd ynni cartrefi, yn debyg i sgôr ynni teclynnau.
- Cewch ddealltwriaeth fanwl o Gyfarwyddeb yr UE ar Berfformiad Ynni Adeiladau a sut mae’n effeithio ar eiddo domestig.
- Dysgwch sut i gofrestru gyda Chynllun Achredu, sy’n ofynnol i gynhyrchu Tystysgrifau Perfformiad Ynni (EPCs) yn gyfreithiol.
- Ewch ati i gaffael sgiliau mewn asesu ynni y gellir eu cymhwyso i amrywiaeth o gartrefi presennol, gan helpu perchnogion eiddo i fodloni safonau effeithlonrwydd ynni.
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer newydd-ddyfodiaid i’r sector sydd am ddechrau gyrfa ym maes asesu ynni ond hefyd ar gyfer y rheiny sydd â phrofiad mewn archwilio eiddo neu syrfeo sy’n dymuno ennill cymhwyster mewn asesu ynni.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill yr Academi Sgiliau Gwyrdd megis:
Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Ynni Domestig
Dyfarniad Lefel 4 mewn Asesu Ôl-ffitio
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.