Tystysgrif Lefel 2 mewn Deall Ôl-ffitio Domestig (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws y Gelli Aur
- Ar-Lein
Mae’r DU yn mynd trwy chwyldro ôl-ffitio er mwyn cwrdd â’i tharged o gyrraedd allyriadau Sero Net erbyn 2050. Ôl-ffitio domestig yw’r broses o uwchraddio ein cartrefi i’w gwneud yn fwy ynni effeithlon, gan leihau allyriadau a chreu cartrefi sy’n iachach ac yn rhatach i fyw ynddynt. Y peth pwysig am Ôl-ffitio yw bod pob cartref yn wahanol a beth bynnag a wnewch mewn cartref, mae angen iddo gael ei wneud gan rywun sy’n deall yr effaith.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Cyllid ar Gael
Disgrifiad o'r Rhaglen
Ar gyfer unigolion sy’n newydd i fyd ôl-ffitio domestig, bydd y cwrs hwn yn rhoi cyflwyniad cynhwysfawr a hawdd ei ddilyn i ôl-ffitio tŷ cyfan. I’r rheiny sydd â phrofiad o brosiectau effeithlonrwydd ynni, bydd yn adeiladu ar y wybodaeth.
Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi dealltwriaeth i unigolion o beth yw ôl-ffitio domestig, beth mae i fod i’w gyflawni, beth sydd angen i chi ei wybod wrth weithio yn y diwydiant a beth i gadw llygad allan amdano wrth osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi. Mae cyflogwyr yn chwilio fwyfwy am staff sy’n deall hanfodion ôl-ffitio.
Yn ystod y cymhwyster hwn, byddwch yn cwmpasu:
- egwyddorion a phwrpas ôl-ffitio domestig;
- y rheoliadau a’r ddeddfwriaeth sy’n berthnasol i weithgareddau Ôl-ffitio;-
- Gofynion Iechyd a Diogelwch;
- y deunyddiau a’r dulliau a ddefnyddir;
- y risgiau a’r heriau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau ôl-Ffitio;
- sut i werthuso effeithiolrwydd gweithgareddau a phrosiectau ôl-Ffitio;
Mae’r cwrs Tystysgrif Lefel 2 GQA hwn mewn Deall Ôl-ffitio Domestig yn addas ar gyfer unigolion sy’n newydd i’r byd ôl-ffitio domestig.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill megis y cwrs Sgiliau Cynaladwyedd Amgylcheddol ar gyfer y Gweithle IEMA.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.