
Dyfarniad Lefel 3 mewn Profi Athreiddedd Aer (Gollyngiad Aer) Anheddau Presennol gan ddefnyddio Dull Pwls Pwysedd Isel (LPP)
- Campws y Gelli Aur
- Ar-Lein
Mae’r Dyfarniad Lefel 3 mewn Profi Athreiddedd Aer yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth hanfodol i weithwyr proffesiynol gynnal profion gollyngiad aer (aerglosrwydd) mewn adeiladau preswyl gan ddefnyddio’r dull pwls pwysedd isel.
Mae’r cymhwyster hwn yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd am ehangu eu harbenigedd mewn asesu effeithlonrwydd ynni, sicrhau cydymffurfiad â safonau PAS 2030 a PAS 2035, a gwella eu rhagolygon gyrfa yn sector cynyddol ôl-ffitio.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Cyllid ar Gael

Disgrifiad o'r Rhaglen
Wedi’i arwain gan Archwilydd Arweiniol PAS 2030 profiadol, mae’r cwrs tridiau cynhwysfawr hwn yn cyfuno theori a hyfforddiant ymarferol, gan roi’r canlynol i chi:
- Dealltwriaeth ddofn o brofi athreiddedd aer a’i rôl mewn effeithlonrwydd ynni.
- Y gallu i gynnal profion aerglosrwydd cywir gan ddefnyddio dulliau a gymeradwyir gan y diwydiant.
- Y sgiliau i sicrhau cydymffurfiad â PAS 2030 a PAS 2035 ar gyfer prosiectau ôl-ffitio.
- Mewnwelediadau ymarferol i asesu a gwella perfformiad adeiladau yn unol â safonau rheoleiddio.
Mae’r cwrs hwn yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sydd â phrofiad mewn Asesu Ynni Domestig neu Asesu Ôl-ffitio sydd am ehangu eu sgiliau mewn profi athreiddedd aer. Fodd bynnag, mae hefyd yn agored i unrhyw un sydd â diddordeb mewn profi aerglosrwydd, waeth beth fo’u cymwysterau blaenorol.
Er y gall dealltwriaeth sylfaenol o berfformiad adeiladau neu arferion adeiladu fod yn fuddiol, nid yw’n ofyniad - sy’n gwneud y cwrs hwn yn hygyrch i weithwyr proffesiynol y diwydiant a newydd-ddyfodiaid sy’n dymuno symud i mewn i’r maes.
Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau eraill yr Academi Sgiliau Gwyrdd megis:
Tystysgrif Lefel 3 mewn Asesu Ynni Domestig
Dyfarniad Lefel 4 mewn Asesu Ôl-ffitio
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.