Tystysgrif Lefel 3 ar gyfer Aseswyr Ôl-Ffitio (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws y Gelli Aur
- Ar-Lein
Mae PAS 2035 yn ymdrin â sut i asesu anheddau ar gyfer ôl-ffitio, nodi opsiynau o ran gwella, cynllunio a nodi mesurau effeithlonrwydd ynni a monitro prosiectau ôl-ffitio. Mae ôl-ffitio o’r fath yn gwbl hanfodol i helpu lleihau allyriadau carbon o gartrefi ac i helpu mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Nod PAS yw sefydlu fframwaith cadarn o safonau ar sut i gynnal ôl-ffitio ynni tŷ cyfan, mewn modd effeithiol, ar adeiladau presennol.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Cyllid CDP ar gael
Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.
Mae cymhwyster Tystysgrif Lefel 3 ABBE ar gyfer Aseswyr Ôl-Ffitio wedi’i ddatblygu i alluogi’r rheiny sy’n gweithio yn y sector adeiladu a’r amgylchedd adeiledig i gymryd cymhwyster sy’n cwmpasu rôl Aseswr Ôl-Ffitio PAS2035. Bydd y cymhwyster yn bodloni gofynion rheoliadol a bydd yn defnyddio’r Cynlluniau Achredu i gynhyrchu’r adroddiad.
Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio i gwmpasu pob agwedd ar rôl Aseswr Ôl-Ffitio PAS2035 gan roi’r wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau i’r dysgwr gynnal asesiad a chynhyrchu adroddiad ar gyflwr. Mae’n cynnwys deall egwyddorion a safonau ôl-ffitio, deall y strwythurau adeiladu, gwerthuso adeiladau ac asesiadau deiliadaeth sydd i gyd yn hanfodol yn y rôl hon.
Mae’n bosibl bydd unigolion eisoes yn gweithio yn y sector amgylchedd adeiledig neu adeiladu ond nid yw hyn yn hanfodol. Bydd yn eu galluogi i ddangos y sgiliau a’r wybodaeth y maen nhw wedi’u hennill drwy eu cyflogaeth gan alluogi unigolion i gyflawni cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol. Gall fod o ddiddordeb arbennig i Aseswyr Ynni Domestig presennol a all uwchsgilio i Aseswr Ôl-Ffitio.
Cynlluniwyd y cwrs hwn i annog unigolion i gymryd rhan mewn dysgu ac addysg bellach yn y sector hwn. Mae cyfleoedd pellach yn cynnwys:
- Tystysgrif Lefel 2 GQA mewn Deall Ôl-ffitio Domestig
- Tystysgrif Lefel 3 ABBE mewn Asesu Ynni Domestig
- Diploma Lefel 5 ABBE mewn Cydlynu Ôl-Ffitio a Rheoli Risg
- Llwybrau i Sero Net IEMA
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (PLA) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.