Diploma Lefel 5 mewn Cydlynu Ôl-Ffitio a Rheoli Risg (Cyrsiau Byr a Dysgu Oedolion)
- Campws y Gelli Aur
- Ar-Lein
Mae Cydlynwyr Ôl-Ffitio yn chwarae rhan ganolog yn ymdrechion y DU i ddatgarboneiddio ei stoc tai. Yn ganolog i PAS 2035, mae’r rôl yn amddiffyn perchnogion tai a chleientiaid trwy reoli prosiectau sy’n cydymffurfio â’r safon. Mae cydlynwyr ôl-ffitio yn rheoli proses PAS 2035 drwy gydol prosiect. Yn hollbwysig, maen nhw’n sicrhau cydymffurfiaeth â chaffael, manylebau a chyflawni mesurau ym mhob prosiect ôl-ffitio domestig.
Manylion y cwrs
- Wyneb i Wyneb
Disgrifiad o'r Rhaglen
I fod yn gymwys, rhaid i chi fyw’n gyfreithlon yng Nghymru a bod yn 19 oed neu’n hŷn.
Yn ogystal, rhaid i chi fod:
● yn gyflogedig (gan gynnwys contractau Asiantaeth a Dim oriau) neu
● yn hunangyflogedig neu
● yn ofalwyr llawn amser (gan gynnwys di-dâl)
Does dim cap cyflogau o ran cyllid ar gyfer y cwrs hwn.
Mae’r cwrs hwn yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth i chi gwblhau prosiectau mawr yn llwyddiannus, gan ddod â’r holl rolau allweddol sy’n ymwneud ag ôl-ffitio tŷ cyfan o dan eich cyfarwyddyd. Ar ôl i chi ei gwblhau, byddwch yn cael eich ystyried yn un o’r uwch weithwyr proffesiynol ar y safle gwaith.
Mae’r cymhwyster hwn yn berthnasol i’r rheiny sydd â phrofiad o weithio ym maes adeiladu neu’r amgylchedd adeiledig.
Ar ôl cwblhau’r cwrs Diploma Lefel 5 ABBE hwn mewn Cydlynu Ôl-Ffitio a Rheoli Risg yn llwyddiannus, gallai dysgwyr symud ymlaen i gyrsiau hyfforddiant pellach.
Cyllid CDP
Mae’r Cyfrif Dysgu Personol (CDP) yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru sy’n caniatáu i unigolion cymwys gael mynediad i gyrsiau wedi’u hariannu’n llawn a chymwysterau proffesiynol.
Cyllid ReAct+
Os ydych wedi bod yn ddi-waith neu wedi eich diswyddo yn ystod y 12 mis diwethaf, gallai ReAct+ ddarparu’r cymorth sydd ei angen arnoch i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflym. Gyda chyllid ar gyfer hyfforddiant sgiliau, datblygiad personol, a chymorth gyda chostau fel gofal plant a theithio, mae ReAct+ yn cynnig amrywiaeth o adnoddau i’ch helpu i oresgyn rhwystrau a dod o hyd i gyfleoedd newydd.